Rhent ar sail trosiant: Llinell Fywyd i Fusnesau?
Medi 21, 2020
Ar ddechrau'r pandemig, gorfododd mesurau cloi llym lawer o fusnesau i gau eu hadeiladau a arweiniodd at ychydig neu ddim incwm yn ystod y cyfnod hwnnw. Er bod mesurau cloi wedi lleddfu er mwyn caniatáu i siopau a bwytai agor eto, mae rheolau pellhau cymdeithasol llym a newidiadau yn ymddygiad defnyddwyr yn parhau i effeithio'n sylweddol ar fasnachu. O ganlyniad, mae busnesau yn dal i gael trafferth cynhyrchu incwm sydd wedi arwain at bryderon ynghylch talu rhent.
Un ateb, a ddefnyddiwyd yn ddiweddar gan frand y stryd fawr New Look, yw defnyddio rhent ar sail trosiant sy’n galluogi busnesau i dalu rhent yn seiliedig ar eu trosiant.
Yn syml, rhent ar sail trosiant yw rhent a gyfrifir yn seiliedig ar drosiant busnes y tenant sy'n gweithredu o'r eiddo ar brydles. Mae hyn yn wahanol i drefniadau rhent yn y prydlesi masnachol mwyaf cyffredin lle bydd tenant yn talu swm penodol o rent am gyfnod penodol.
Gellir cyfrifo rhent ar sail trosiant mewn llawer o wahanol ffyrdd. Mae’r defnydd mwyaf cyffredin o rent ar sail trosiant yn ei gwneud yn ofynnol i’r tenant dalu isafswm rhent sylfaenol (er enghraifft, 80% o rent y farchnad agored) ynghyd â swm ychwanegol a gyfrifir drwy ddidynnu’r rhent sylfaenol o ganran sefydlog o’r trosiant blynyddol. Fodd bynnag, gellir cyfrifo'r rhent cyfan hefyd fel canran o drosiant blynyddol y tenant neu gall y tenant dalu rhent sylfaenol sydd ond yn cael ei ychwanegu os yw'r trosiant blynyddol yn cyrraedd lefel benodedig.
Y fantais fwyaf arwyddocaol o ganiatáu i denantiaid rentu eu heiddo yn seiliedig ar berfformiad eu gwerthiant yw y gall y tenant barhau i fasnachu yn ystod cyfnod anodd neu ansicr. Yn gyfnewid, pan fydd busnes y tenant yn perfformio'n dda a'u helw yn cynyddu, bydd y landlord yn derbyn rhent uwch. Gall rhent ar sail trosiant hefyd fod yn fuddiol i gynlluniau buddsoddi landlordiaid gan ei fod yn galluogi landlordiaid i fonitro sut mae eu tenant yn perfformio. Gall y wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol wrth adolygu buddion masnachol adnewyddu prydles y tenant ar ddiwedd cyfnod y brydles.
Mae yna reswm fod rhent ar sail trosiant yn gymharol anghyffredin mewn prydlesi masnachol. Er bod rhent ar sail trosiant yn apelio at denantiaid – yn enwedig busnesau newydd neu fach a allai ei chael yn anoddach rhagweld eu llwyddiant ariannol – maent yn aml yn amhoblogaidd ymhlith landlordiaid. Mae hyn oherwydd y ffaith bod rhent ar sail trosiant, oherwydd ei natur, yn ansicr a rhaid i landlordiaid ysgwyddo'r risg y bydd busnes y tenant yn perfformio'n wael. Nid yw hyn yn ddelfrydol ar gyfer landlordiaid a fydd fel arfer yn ffafrio sicrwydd mewn buddsoddiadau ac yn dibynnu ar eu heiddo ar brydles am incwm sefydlog.
Er y gallai landlordiaid fod yn amharod i rentu ar sail trosiant, mae’r pandemig coronafeirws wedi gorfodi’r byd i ddod yn fwy hyblyg ac arloesol wrth addasu i newid. Wrth i’r pandemig barhau ac wrth i’r hinsawdd ariannol ddod yn fwyfwy ansicr, gall yr hyblygrwydd a gynigir gan rent ar sail trosiant fod yn achubiaeth i fusnesau a allai eu galluogi i oroesi mewn ffordd gynaliadwy.