Cynllun Cymorth Swyddi – Diweddariad Hydref 2020

Hydref 9, 2020

Ddydd Gwener 9 Hydref 2020, cyhoeddodd y Canghellor estyniad pellach i’r Cynllun Cymorth Swyddi, a fydd yn cymryd drosodd o’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws pan ddaw i ben ar 31 Hydref 2020.

Mae'r diweddariadau diweddaraf ar y Cynllun Cymorth Swyddi newydd yn cynnwys:

  • Bydd y darpariaethau’n berthnasol o 1 Tachwedd 2020, unwaith y daw’r CJRS presennol i ben

  • Bydd gweithwyr sy'n gweithio i gwmnïau ledled y DU sy'n cael eu gorfodi i gau oherwydd cyfyngiadau COVID-19 yn cael eu talu dwy ran o dair, neu 67%, o'u cyflog arferol gan y llywodraeth.

  • Ni fydd yn rhaid i gyflogwyr gyfrannu at gyflogau ond bydd yn rhaid iddynt gyfrannu tuag at YG a chyfraniadau pensiwn

  • Dim ond tra bod cyfyngiadau arnynt y mae cyflogwyr yn gymwys i hawlio’r grant a rhaid i’r gweithwyr perthnasol fod i ffwrdd o’r gwaith am o leiaf saith diwrnod yn olynol.

  • Bydd y cynllun hwn yn rhedeg am gyfnod o chwe mis

  • Bydd y cymorth yn cael ei adolygu ym mis Ionawr 2021

  • Telir grantiau hyd at uchafswm o £2,100 fesul gweithiwr y mis

  • Bydd taliadau i gyflogwyr yn cael eu gwneud mewn ôl-daliadau, trwy wasanaeth hawliadau CThEM a fydd ar gael o ddechrau mis Rhagfyr

Deellir ar hyn o bryd mai’r cynllun hwn sydd fwyaf tebygol o dargedu’r diwydiant lletygarwch, megis tafarndai a gweithgareddau hamdden eraill, a fydd yn gorfod cau oherwydd y risg uwch y gallai’r firws Covid-19 ledaenu yn eu lleoliadau.

Nid yw'n glir eto pwy yn union fydd yn gymwys ac a fydd yn berthnasol mewn perthynas â chod post.

Bydd ein cyfreithwyr cyflogaeth yn darparu diweddariadau ar y cynllun, pan fydd canllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho ein Taflen Ffeithiau Cwestiynau Cyffredin Cynllun Cymorth Swyddi

 

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...