Sut Alla i Gefnogi fy Ngweithiwr Anabl yn ystod y Pandemig?
Rhagfyr 7, 2020
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi adrodd bod 86% o’r rhai sy’n gweithio gartref ar hyn o bryd wedi gwneud hynny o ganlyniad i’r pandemig a bod 9.6 miliwn o swyddi wedi’u rhoi ar ffyrlo yn ôl CThEM. Fodd bynnag, nid yw pawb wedi cael y gallu i aros gartref, ac mae ymchwil yn dangos bod cais llawer o weithwyr anabl i weithio gartref, i fod ar ffyrlo neu i gael eu hadleoli wedi’i wrthod.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwahardd gwahaniaethu ac aflonyddu yn y gweithle ar sail “nodweddion gwarchodedig”, sy’n cynnwys anabledd. Mae angen i gyflogwyr gydymffurfio â'r Ddeddf er mwyn sicrhau triniaeth deg yn y gweithle ac amddiffyn eu hunain rhag hawliadau gwahaniaethu.
Mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Scope, gwrthodwyd ceisiadau gweithio 40% o oedolion anabl, megis gweithio gartref neu gael eu hadleoli, gan eu cyflogwr. O ganlyniad, gadawyd llawer o’r rhai oedd yn teimlo’n anniogel yn eu gweithle gyda’r penderfyniad anodd o gadw eu swydd neu aros yn ddiogel. Mae Scope ac ymgyrchwyr anabledd eraill wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi’r hawl awtomatig i’r rhai sy’n hynod agored i niwed o ganlyniad i’w hanabledd i ffyrlo fel nad ydynt yn cael eu gadael gyda’r penderfyniad anodd hwnnw.
Rhaid i gyflogwyr fod yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau mewn perthynas â gweithwyr anabl wrth i’r pandemig COVID-19 barhau, a dylent gadw’r canllawiau canlynol mewn cof:
Cyfathrebu: annog eich cyflogeion i fod yn agored am eu materion iechyd a sut mae’r pandemig yn effeithio arnynt, oherwydd bydd bod yn ymwybodol o’u problemau yn ei gwneud yn haws i chi wneud addasiadau rhesymol yn ôl yr angen.
Addasiadau Rhesymol: trwy wneud addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr anabl byddwch yn eu helpu i aros yn y gwaith ar adeg pan fo'n bwysicaf; mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer staff anabl, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gofal priodol i unrhyw gais a wnânt – p’un a yw hwn i gael ei roi ar ffyrlo er lles eu hiechyd, i weithio gartref, neu fesurau eraill sy’n eu helpu heb amharu'n sylweddol ar eich busnes.
Adolygu: sicrhau bod y sefyllfa’n cael ei hadolygu’n rheolaidd gan y gallai fod gan rai unigolion anableddau cyfnewidiol, neu efallai y byddant yn canfod nad yw addasiadau yn gweithio allan iddynt a bod angen eu haddasu.
Hyfforddiant: sicrhau bod pob rheolwr neu uwch gyflogai wedi'u hyfforddi'n briodol fel y gallant nodi a chyfathrebu'n dda â gweithwyr anabl a darparu'r cymorth a'r cyngor priodol.
Cyngor Meddygol: ceisio cyngor meddygol gan weithwyr proffesiynol i sicrhau eich bod yn gwybod yn iawn beth yw maint anabledd cyflogai a sut y gallai effeithio ar eu swydd neu gael ei effeithio gan ei swydd.