Beth yw Effeithiau Tebygol Brexit ar Gyfraith Cyflogaeth y DU?
Rhagfyr 16, 2020
Mae llawer o gyfraith cyflogaeth y DU wedi deillio o’r UE, felly Llywodraeth y DU fydd yn penderfynu a ddylai gadw, diwygio neu ddiddymu deddfwriaeth o’r fath.
Mae'r newid i ddeddfwriaeth yn debygol o ddod o ddylanwad cymdeithasol neu wleidyddol yn hytrach nag angen cyfreithiol am y newid. Fodd bynnag, o ystyried bod llawer o hawliau o dan gyfraith cyflogaeth y DU yn mynd ymhellach na’r gofynion o dan gyfarwyddebau’r UE, efallai y bydd unrhyw newidiadau’n gyfyngedig.
Dyma ein rhagfynegiadau ar gyfer y meysydd cyfreithiol a allai fod yn agored i newid:
Y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith 1998 – Mae’n annhebygol y bydd y DU yn diwygio hawliau gweithwyr yn sylweddol mewn perthynas ag oriau gwaith a gwyliau, gan y byddai hyn yn hynod amhoblogaidd ymhlith gweithwyr ac undebau. Fodd bynnag, y DU yw’r unig wlad ar hyn o bryd i gael optio allan mewn perthynas â’r wythnos waith 48 awr, felly gallem weld y cap hwn ar oriau gwaith yn cael ei ddileu. Rydym hefyd yn debygol o weld ailwampio’r ffordd y mae tâl gwyliau’n gweithio, gan fod hwn yn faes cymhleth ar hyn o bryd oherwydd effeithiau nifer o benderfyniadau Llys Cyfiawnder Ewrop o dan y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith.
Hawliau Gweithwyr Asiantaeth – Mae hwn yn un maes cyfreithiol a allai weld ailwampio llwyr gan fod Rheoliadau Gweithwyr Asiantaeth 2010 yn cael eu hystyried yn gymhleth ac amhoblogaidd. Er enghraifft, mae busnesau mawr yn debygol o lobïo am newidiadau i’r rheolau sy’n rhoi’r un hawliau i weithwyr asiantaeth â staff parhaol yn dilyn cyfnod cymhwyso o 12 wythnos, sy’n cael eu hystyried yn feichus i gyflogwyr.
TUPE – Gallai fod yn bosibl newid y rheolau ar drosglwyddiadau busnes hefyd, gan fod nifer o agweddau ar TUPE y gall fod yn anodd eu rhoi ar waith yn ymarferol. Er enghraifft, gellid llacio'r rheolau i alluogi cyflogwyr sy'n cyflogi staff newydd o dan TUPE i gysoni telerau ac amodau'r gweithwyr hynny â rhai eu staff presennol.
Deddf Cydraddoldeb 2010 – Mae’n annhebygol y caiff y Ddeddf Cydraddoldeb ei diddymu’n llwyr, gan fod y Llywodraeth eisoes wedi nodi nad yw am wanhau amddiffyniadau gweithwyr rhag gwahaniaethu. Fodd bynnag, mae awgrymiadau y gellir gosod cap ariannol ar hawliadau gwahaniaethu, yn debyg i'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd ar gyfer hawliadau diswyddo annheg, i leddfu'r risgiau i gyflogwyr o ddyfarniad anghyfyngedig mewn hawliadau o'r fath.