Ystadegau Tribiwnlys Cyflogaeth a'r Galw Cynyddol yn sgil Covid-19

Mawrth 29, 2021

Mae’r ystadegau chwarterol diweddar a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020 yn parhau i adlewyrchu’r pwysau cynyddol ar y Tribiwnlys Cyflogaeth yn sgil Covid-19.

Yn dilyn y duedd a welwyd yn ystadegau'r chwarter blaenorol, adroddwyd bod y galw wedi codi i fod yn uwch na lefelau cyn-Covid-19 mewn hawliadau sengl a lluosog.

Beth yw ystyr hyn?

Dywedwyd bod nifer yr hawliadau lluosog wedi cynyddu 82% a nifer yr hawliadau sengl wedi cynyddu 25% yn yr ET, o gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol. Mae’r cynnydd parhaus mewn hawliadau unigol a lluosog yn debygol o fod yn ymateb i ddiweithdra cynyddol a achosir gan ganlyniadau economaidd pandemig COVID-19, ynghyd â diswyddiadau a newidiadau mewn amodau gwaith.

Adroddwyd hefyd bod llwyth achosion yr ET heb eu cwblhau wedi codi i 51,000; cynnydd o 12% ar gyfer hawliadau lluosog a 36% ar gyfer hawliadau sengl. Dywedwyd bod hyn wedi'i ysgogi gan y cynnydd a welwyd mewn hawliadau sengl a'r ffaith bod nifer yr hawliadau a gyflwynwyd yn fwy na nifer yr hawliadau a ddaeth i ben yn yr ET.

Datgelodd yr ystadegau chwarterol hefyd mai’r gŵyn awdurdodaeth fwyaf cyffredin a gwblhawyd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020 oedd “Amser gwaith”. Mewn cymhariaeth, “Diswyddo annheg” oedd y gŵyn fwyaf cyffredin yn yr un chwarter yn 2019.

Yn nodedig, bu cynnydd sylweddol hefyd mewn hawliadau gwahaniaethu ar sail oed ym mis Hydref 2020. Adroddwyd bod 1,166 o hawliadau gwahaniaethu ar sail oedran yn y mis hwnnw a oedd bron i hanner nifer yr hawliadau gwahaniaethu ar sail oed a gyflwynwyd yn 2019 i gyd.

Fodd bynnag, rhagwelir y bydd y cyhoeddiad diweddar y bydd y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws (ffyrlo) yn cael ei ymestyn i 30 Medi 2021, yn arwain at arafu nifer y ceisiadau.

 

 

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...