Gweithio Hybrid: A yw Dyfodol y Gweithle yn Hyblyg?

Awst 5, 2021

O gynnydd mewn gweithio gartref a dibyniaeth gynyddol ar dechnoleg, mae pandemig Covid-19 yn ddi-os wedi cyflymu’r daith tuag at ddyfodol y gweithle. Fodd bynnag, mae astudiaeth ddiweddar gan Aviva yn nodi bod pandemig Covid-19 hefyd wedi bod yn gyfnod tyngedfennol o fyfyrio i weithwyr.

Yn ôl yr astudiaeth, mae 47% o weithwyr bellach yn honni eu bod yn canolbwyntio llai ar yrfaoedd a 69% yn dweud y bydd gweithio hyblyg yn chwarae rhan bwysicach wrth wneud dewisiadau gyrfa. O ganlyniad, mae llawer o gyflogwyr bellach yn ystyried sut olwg fydd ar eu ffordd barhaol o weithio, gyda llawer yn dewis dull ‘hybrid’, gan gyfuno gweithio mewn swyddfa a gweithio gartref.

I bwy mae gweithio hybrid yn gweithio?

Mae'r astudiaeth a gynhaliwyd gan Aviva yn cadarnhau bod hoffterau ar gyfer dylunio patrymau gwaith hybrid yn amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar sawl ffactor gan gynnwys oedran, rhyw a phersonoliaeth.

Nododd yr astudiaeth fod menywod yn sylweddol fwy tebygol o adrodd bod pandemig Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar eu cydbwysedd bywyd a gwaith (24% o’i gymharu â 16% o ddynion). Mae hyn yn debygol o fod oherwydd y ffaith bod menywod, sydd yn aml â rolau gofal sylfaenol ar gyfer eu plant neu eu rhieni, wedi bod yn ei chael yn fwy anodd cynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wrth weithio gartref. Nid yw’n syndod felly bod mwy na dwy o bob tair menyw (67%) yn teimlo y byddai hyblygrwydd llwyr o ran eu horiau gwaith yn eu gwneud yn fwy cynhyrchiol. Gallai cyflwyno oriau gwaith hyblyg felly alluogi menywod i wella eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac osgoi gorflinder yn gysylltiedig â gwaith.

Amlygodd canfyddiadau Aviva hefyd wahaniaeth sylweddol rhwng hoffterau gwahanol genedlaethau yn y gweithle yn dilyn pandemig Covid-19. Mae’r astudiaeth yn nodi bod oedolion yng Nghenhedlaeth X (40-54 oed) bron ddwywaith yn fwy tebygol o ffafrio gweithio gartref amser llawn na’r rheiny yng Nghenhedlaeth Z (18-24 oed). Mae hyn yn debygol oherwydd bod y genhedlaeth iau yn rhoi blaenoriaeth i'r agwedd gymdeithasol o fod yn y swyddfa a hefyd yn fwy tebygol o fod angen goruchwyliaeth a hyfforddiant agos. Mewn cymhariaeth, mae cenedlaethau hŷn yn debygol o fod yn fwy profiadol yn eu rolau ac felly’n fwy cyfforddus yn gweithio gartref.

Fodd bynnag, mae’r astudiaeth hefyd yn nodi bod y cenedlaethau iau, gan gynnwys Generation Z a Generation Y (25 – 39 oed) yn awyddus i wthio am batrymau gwaith hybrid wrth symud ymlaen. Mae hyn yn debygol oherwydd y ffaith bod y cenedlaethau iau yn blaenoriaethu iechyd meddwl a chydbwysedd bywyd a gwaith ac mae patrymau gwaith hybrid yn caniatáu iddynt sicrhau bod eu gwaith yn cyd-fynd â gweddill eu bywyd.

Sut i roi gweithio hybrid ar waith

Dyma'r ffactorau allweddol y mae angen i chi eu hystyried wrth weithredu model gweithio hybrid:

  1. Creu polisïau a gweithdrefnau clir ar gyfer gweithio hybrid.

  2. Ystyried goblygiadau cyfreithiol a chytundebol gweithio hybrid.

  3. Blaenoriaethu cyfathrebu effeithiol gyda gweithwyr i osgoi llif gwybodaeth gwael a gwahardd aelodau tîm nad ydynt yn y swyddfa.

  4. Sicrhau bod gan weithwyr y dechnoleg i'w galluogi i weithio gartref yn effeithiol.

  5. Darparu hyfforddiant i weithwyr ar ofalu am eu lles tra’n gweithio mewn ffordd hybrid i atal unigedd a gorflinder cysylltiedig â gwaith.

 


Fflur Jones

 

 

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...