Mae 95% o BBaChau “yn y tywyllwch” ynghylch hawliau cyfreithiol gweithwyr anabl

Awst 29, 2019

Yn ôl data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol dim ond 51.7% o bobl ag anableddau sydd mewn cyflogaeth ar hyn o bryd. Nawr mae arolwg newydd yn awgrymu nad yw mwyafrif o fusnesau bach a chanolig yn gwybod yn llawn beth yw eu rhwymedigaethau cyfreithiol tuag at weithwyr anabl.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwahardd gwahaniaethu ac aflonyddu yn y gweithle ar sail nodweddion gwarchodedig oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol. Mae angen i gyflogwyr gydymffurfio â’r Ddeddf er mwyn sicrhau triniaeth deg yn y gweithle.

Mewn arolwg diweddar o 500 o BBaChau a gynhaliwyd gan Bolt Burdon Kemp a Censuswide, dim ond 5% o'r BBaChau a arolygwyd a allai nodi'n gywir bob un o'r tri diogelwch allweddol a roddwyd i weithwyr anabl heb ddewis unrhyw un o'r atebion anghywir a ddarparwyd.

Dywedodd 93% o’r BBaChau a holwyd eu bod eisiau mwy o hyfforddiant ac addysg am gyfraith cyflogaeth anabledd ac o’r grŵp hwn dywedodd dros hanner y BBaChau eu bod yn meddwl bod angen i’r Llywodraeth wneud mwy i addysgu a hyfforddi cyflogwyr ar y materion hyn.

Mae'n hanfodol i gyflogwyr wybod beth yw eu rhwymedigaethau mewn perthynas â'u cyflogeion anabl. Dyma rai canllawiau sylfaenol:

  • Cyfathrebu: mae gwybodaeth yn bŵer felly os ydych chi'n gwybod bod eich gweithiwr yn anabl bydd yn lleihau'r siawns o gamddealltwriaeth a gwahaniaethu damweiniol ar sail anabledd. Anogwch eich cyflogeion i fod yn fwy agored am faterion iechyd yn y gwaith fel nad ydynt yn teimlo bod yn rhaid iddynt guddio eu hanableddau.

  • Hyfforddiant: sicrhau bod eich rheolwyr wedi'u hyfforddi'n ddigonol fel y gallant nodi a chefnogi gweithwyr anabl.

  • Cyngor meddygol: siarad â gweithwyr meddygol proffesiynol, gan gynnwys Iechyd Galwedigaethol, i sicrhau eich bod yn cael gwybod yn iawn beth yw'r broblem a sut y gallai effeithio neu gael ei heffeithio gan swydd y gweithiwr.

  • Addasiadau rhesymol: trwy wneud addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr anabl byddwch yn eu helpu i aros mewn gwaith. Mewn achosion lle gall salwch o'r fath fod yn hirhoedlog ac yn ddigon difrifol i fod yn anabledd, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i wneud hynny.

  • Adolygu: sicrhau eich bod yn adolygu'r sefyllfa'n rheolaidd; gall rhai anableddau ailddechrau hyd yn oed os yw'n ymddangos eu bod wedi diflannu, felly mae'n bwysig peidio â gadael i bethau lithro.

 

 

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...