Hydref 15, 2024
Gan Owen John
Ar ôl bwrw golwg ar y Bil Hawliau Cyflogaeth (sydd yn XNUMX tudalen o hyd!), mae gyda ni ddarlun gwell o’r newidiadau sylweddol i gyfraith cyflogaeth sydd ar y ffordd dros y blynyddoedd nesaf. Ond un peth dydyn ni ddim yn ei wybod yn sicr yw pryd bydd yr holl newidiadau yma’n dod i rym.
Mae rhyw si wedi bod am ddyddiad cychwyn ym mis Hydref 2026, ond dim ond si yw hynny ar hyn o bryd. Fe rown ni’r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fyddwn ni’n gwybod yn sicr.
Byddwn ni'n cynnal gweminarau 45 munud am ddim i esbonio beth sy'n newid, ar 13 Tachwedd (gweminar Saesneg) a 14 Tachwedd (gweminar Gymraeg). Manylion archebu yma.
Mae’r Bil yn cyflwyno 28 o newidiadau i gyfraith cyflogaeth. Ond rydw i wedi crynhoi’r newidiadau pwysicaf isod:
- Hawl o’r diwrnod cyntaf i beidio cael eich diswyddo'n annheg.Ar hyn o bryd, y cyfnod i fod yn gymwys ar gyfer achos diswyddo annheg yw 2 flynedd, felly mae hwn yn dipyn o newid! Bydd ymgynghoriad nawr ar y cysyniad o gyfnod prawf statudol (a’r syniad yw y bydd cyflogwr yn dal i allu diswyddo gweithiwr yn deg o fewn cyfnod prawf penodol). Mae yna si mai XNUMX mis fydd y cyfnod prawf statudol yma – ond unwaith eto, dim ond si yw hynny ar hyn o bryd. yma. Bydd ymgynghoriad nawr ar y cysyniad o gyfnod prawf statudol (a’r syniad yw y bydd cyflogwr yn dal i allu diswyddo gweithiwr yn deg o fewn cyfnod prawf penodol). Mae sïon y bydd y cyfnod prawf statudol hwn yn 9 mis – ond eto dim ond si yw hyn ar hyn o bryd.
- Rhoi diwedd ar “ddiswyddo ac ail-gyflogi”. Mae hwn yn un mawr arall! Bydd y Bil yn ei gwneud hi’n annheg yn awtomatig i ddiswyddo cyflogai sy’n gwrthod amrywiad i’w contract. Mae hyn yn mynd ymhellach nag roedd llawer ohonon ni’n ei ddisgwyl. Fodd bynnag, fe fydd yna eithriad cyfyng iawn – pan fydd cyflogwr yn gallu dangos eu bod nhw mewn sefyllfa ariannol enbyd iawn.
- Rhoi diwedd ar gontractau dim oriau “camfanteisiol”. Mae'r un yma’n gymhleth iawn! Yn syml, bydd gan weithiwr dim oriau hawl i gael contract gydag oriau gwarantedig sy'n adlewyrchu'r oriau maen nhw’n eu gweithio dros gyfnod penodol, neu “gyfnod cyfeirio”. Rydyn ni’n aros am fwy o eglurder ynghylch beth fydd y cyfnod cyfeirio, ond mae cyfnod o 12 wythnos yn cael ei gynnig ar hyn o bryd.
- Dyletswydd i atal aflonyddu rhywiol.. Yn ddiweddar fe wnaethon ni gwmpasu yma Yn ddiweddar, fe wnaethon ni roi sylw i’r ddyletswydd newydd sy’n dod i mewn ar 26 Hydref i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol yn eu gweithlu. Fodd bynnag, mae’r Bil yn ymestyn hyn drwy ddweud y bydd angen i gyflogwyr nawr gymryd “pob” cam rhesymol i atal aflonyddu rhywiol. Mae'r gair bach ychwanegol yma’n ymestyn y ddyletswydd yn sylweddol. Yn ogystal, mae'r Bil hefyd yn ymestyn y ddyletswydd newydd ymhellach i gynnwys ymddygiad trydydd partïon; sy'n golygu y gallai cyflogwyr fod yn atebol petai eu gweithwyr yn wynebu aflonyddu rhywiol, er enghraifft, gan gwsmer, cleient, cyflenwr neu unrhyw drydydd parti arall.
- Gweithio'n hyblyg.Dydy’r newid yma ddim yn mynd mor bell ag roedd llawer yn ei ragweld (efallai i chi ddarllen bod rhai papurau newydd yn rhagweld “hawl i wythnos bedwar diwrnod”!) Mewn gwirionedd, dydy’r Bil ddim yn gwneud dim byd o’r fath. Yn ymarferol, bydd y Bil yn golygu y bydd angen i gyflogwyr roi rhesymau gwell a chliriach os ydyn nhw eisiau gwrthod ceisiadau i weithio’n hyblyg. yma.
- Tâl salwch statudol.Bydd tâl salwch statudol yn daladwy i weithiwr ar ddiwrnod cyntaf eu habsenoldeb. Mae’r newid yma yn cael gwared ar yr angen presennol i unigolion weithio 3 ‘diwrnod aros’ cyn i’r tâl salwch statudol ddod yn daladwy, a bydd hefyd yn berthnasol i bob gweithiwr, nid dim ond i’r rhai sy’n ennill mwy na swm penodol.
- Absenoldeb profedigaeth.I bob pwrpas, mae’r Bil yn dileu’r gair ‘rhieni’ o’r hawl presennol i gyfnod o absenoldeb yn sgil profedigaeth rhieni; sy'n golygu y bydd cyfnod o absenoldeb profedigaeth statudol ar gael i ystod lawer ehangach o bobl (ac nid wedi’i gyfyngu i rieni mewn profedigaeth). Fodd bynnag, rydyn ni’n disgwyl rhagor o eglurder ar y newid hwn.
- Contractau cyflogaeth.Bydd angen i bob contract cyflogaeth gynnwys datganiad yn dweud bod gan weithwyr hawl i ymuno ag undeb llafur.
Mae yna newidiadau eraill (fel y rhai sy’n ymwneud ag undebau llafur a streicio, yr angen posib i gyflogwyr sydd â mwy na 250 o weithwyr adrodd ar eu bylchau cyflog ethnigrwydd ac anabledd, a sefydlu Asiantaeth Gwaith Teg newydd i blismona hawliau cyflogaeth). Byddwn yn ymdrin â'r rhain yn fanylach wrth i ni gael rhagor o wybodaeth yn ystod y misoedd nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth am y mater yma, cysylltwch â'n cyfreithiwr cyflogaeth Owen John ar ojohn@darwingray.com neu 02920 829 118.