Eiddo masnachol: Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cynlluniau i wahardd adolygiadau rhent i-fyny-yn-unig

Gorffennaf 18, 2025

Gan Gareth Wedge

Un nodwedd annisgwyl o Fil a gyflwynwyd yn Senedd y DU yr wythnos diwethaf oedd gwaharddiad ar adolygiadau rhent i-fyny-yn-unig.

Dim ond darlleniad cyntaf Bil Datganoli a Grymuso Cymunedol Lloegr oedd hwn – felly, mae yna dipyn o ffordd i fynd o hyd.

Fodd bynnag, os ddaw'r darpariaethau i rym, mae ein harbenigwyr eiddo masnachol wedi dadansoddi'r newidiadau arfaethedig a'r hyn y gallai ei olygu i landlordiaid a thenantiaid.

Beth yw adolygiadau rhent i fyny yn unig?

Mae adolygiadau rhent i-fyny-yn-unig yn gyffredin mewn lesddaliadau masnachol. Yn ei hanfod, mae gan landlord sicrwydd, yn ystod adolygiad perthnasol, na fydd y rhent newydd byth yn llai na'r rhent cychwynnol neu'r rhent presennol– efallai y bydd yn cynyddu ond ni fydd byth yn mynd i lawr, hyd yn oed os bydd dirywiad yn y farchnad.

Newidiadau arfaethedig

O dan y cynigion:

  • Bydd adolygiadau rhent i fyny yn unig yn cael eu gwahardd mewn lesddaliadau masnachol yng Nghymru a Lloegr – waeth sut mae'r lesddaliadau hynny wedi'u drafftio. Mae hyn yn golygu y gallai'r rhent diwygiedig fod yn is na'r rhent cychwynnol neu bresennol;
  • Bydd y gwaharddiad hwn yn berthnasol i unrhyw adolygiad i-fyny-yn-unig lle nad oes modd canfod y rhent pan fydd y partïon yn ymrwymo i'r brydles. Byddai hyn yn cwmpasu adolygiadau rhent ar sail y farchnad a'r rhai sy'n gysylltiedig â chwyddiant a throsiant y tenant;
  • Ni fyddai cynnydd fesul cam neu gynnydd sefydlog yn cael eu heffeithio gan y gwaharddiad. Gall tenant geisio negodi ar y ffigurau hyn cyn llofnodi ar y dotiau;
  • Ni fydd prydlesi na chytundebau ar gyfer prydles sydd eisoes ar waith pan ddaw'r ddeddfwriaeth i rym yn ddarostyngedig i'r gwaharddiad;
  • Unwaith y bydd y ddeddfwriaeth yn gymwys, bydd yn effeithio ar adnewyddu lesddaliadau (boed yn adnewyddu statudol neu fel arall);
  • Waeth beth fo telerau'r brydles, byddai gan denant y gallu i gychwyn y darpariaethau adolygu rhent – er mwyn sicrhau na all landlordiaid gynnal y status quo yn ystod dirwasgiadau yn y farchnad;
  • Ni fydd y partïon yn gallu cytundebu allan o'r gwaharddiad hwn nac ymrwymo i gytundeb ochr sy'n mynd yn ei erbyn.

Dadansoddiad – Beth allai hyn ei olygu i landlordiaid, tenantiaid ac eraill?

O safbwynt tenant ac mewn erthygl a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, dywedwyd y gall adolygiadau rhent i-fyny-yn-unig “… [g]wneud rhenti’n anfforddiadwy ac achosi i siopau gau”. Yn ei hanfod, eu safbwynt yw y gallai adolygiadau rhent i-fyny-yn-unig olygu bod tenantiaid yn talu rhent sydd yn artiffisial o uchel – er gwaethaf newid yn y farchnad. Gwneir dadleuon bod y costau uwch hyn wedyn yn cael eu trosglwyddo i'r defnyddiwr ac, os yw siopau'n cau, bod hyn yn arwain at broblemau economaidd-gymdeithasol.

O safbwynt landlord, mae pryder y bydd y gwaharddiad yn creu ansicrwydd i fuddsoddwyr eiddo ac yn arwain at lai o hyder mewn buddsoddiadau posibl a rhagamcanion incwm. Bydd y gwaharddiad hefyd yn berthnasol i brisiadau a gynhelir gan fenthycwyr – sy'n dibynnu ar incwm rhent benthycwyr i wasanaethu benthyciadau. Canlyniad anfwriadol posib yw y gall landlordiaid osod rhent cychwynnol uwch neu ddefnyddio rhenti cam-wrth-gam – i geisio lliniaru'r risg o ostyngiad mewn incwm os bydd amodau'r farchnad yn gostwng.

Fel arall, a ellid dadlau y bydd yr effeithiau'n llai pellgyrhaeddol nag a ragwelwyd? Pan feirniadodd Llywodraeth Lafur adolygiadau rhent i-fyny-yn-unig-yn 2001, roedd lesddaliadau tymor hirachyn fwy cyffredin ar y pryd. Ond nawr, nid yw'n anarferol gweld rhai tenantiaid yn cytunoi lesddaliadau tymor byr heb unrhyw adolygiadau. A allai fod yn wir, felly, na fydd y sector a grybwyllwyd gan y Llywodraeth (i elwa o'r gwaharddiad) yn cael ei effeithio'n sylweddol gan y cynigion wedi'r cyfan? Amser a ddengys.

Byddwn yn dilyn y Bil hwn ac unrhyw newidiadau a wneir iddo wrth iddo fynd drwy Senedd y DU.

Os hoffech drafod y mater uchod gydag un o'n tîm eiddo masnachol arbenigol, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy gwblhau ein Ffurflen Gyswllt .

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Alun Saunders
Swyddog Marchnata
Gweld Proffil
Amanda Scanlon
Cynorthwy-ydd Gweithredol
Gweld Proffil
Anna Rees
Pennaeth Marchnata
Gweld Proffil
Caragh McCormack
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Gweld Proffil
Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Charles Collar
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Cindy Thomas
Uwch Reolwr Cyfrifon
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Denna Cather
Goruchwyliwr Swyddfa
Gweld Proffil
Elin Davies
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Elliw Jones
Cymrawd
Gweld Proffil
Emily Shingler
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Erin Phillips
Uwch Weithredwr Marchnata
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Fiona Hughes
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Fiona Sinclair
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Georgina Rees
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Geraint Manley
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Gweld Proffil
Grace Jarrett
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Gwen Hughes
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Heledd Ainsworth
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Heledd Evans
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Holly O'Regan
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Gweld Proffil
Iwan Price
Derbynnydd / Cynorthwyydd Swyddfa Gyfreithiol
Gweld Proffil
Jessica Hayward
Cymrawd
Gweld Proffil
Kadell Khalid
Ysgrifennydd / Gweinyddwr AD
Gweld Proffil
Kate Heaney
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Leanne Nixon
Cymrawd
Gweld Proffil
Lisa Evans
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Lloyd Pike
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Lorna Fraser
Cymrawd
Gweld Proffil
Lowri Evans
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Mike Raymond
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Nicole Brendel
Cymrawd
Gweld Proffil
Non Kinsey
Cymrawd
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Ramyar Hassan
Cymrawd
Gweld Proffil
Rhodri Lewis
Ymgynghorydd
Gweld Proffil
Rohey Jomadar
Cymrawd
Gweld Proffil
Sarah Price
Cyfarwyddwr Cyfreithiol
Gweld Proffil
Seren Trigg
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Siriol Hughes
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Stephanie Kendall
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Stephen Lummis
Rheolwr Cyfrifon
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil
Tiegan James
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Tracey Holland
Rheolwr Cyllid
Gweld Proffil
Vanessa Lovell
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...