Ail-benodi Darwin Gray ar Banel Comisiynydd y Gymraeg
Mawrth 17, 2025
Darwin Gray wedi sicrhau ei le unwaith eto ar banel cyfreithiol Comisiynydd y Gymraeg, gan adeiladu ar ei lwyddiant wrth gynghori'r Comisiynydd dros y pedair blynedd diwethaf.
Mae Darwin Gray eisoes wedi mwynhau llwyddiannau sylweddol wrth gynrychioli’r Comisiynydd yn Nhribiwnlys y Gymraeg. Arweiniodd y llwyddiannau hynny hefyd at gyfleoedd i’r cwmni ddarparu hyfforddiant ar faterion penodol i randdeiliaid y Comisiynydd yn ehangach. Y llynedd, roedd Darwin Gray hefyd yn falch o gynnal dwy gynhadledd ar Lywodraethiant, un yn y gogledd a’r llall yn y de, lle gwnaeth Comisiynydd y Gymraeg gyfraniad pwysig fel siaradwr gwadd.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg: “Mae natur ein gwaith, yn enwedig fel rheoleiddiwr, yn golygu ei bod yn ofynnol i ni sicrhau cyngor cyfreithiol cadarn ac, yn aml, cyngor arbenigol yng nghyd-destun yr iaith Gymraeg. O ganlyniad rhaid i ni fod yn hyderus yn y cwmnïau fydd yn darparu’r gwasanaeth pwysig hwn ar ein cyfer. Mae cwmni Darwin Gray wedi profi fod ganddynt ddealltwriaeth o’n hamryw feysydd gwaith ac yn llawn ymwybodol o’n nodau fel sefydliad lle mae’r Gymraeg yn flaenllaw. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio dros y blynyddoedd nesaf.”
Dywedodd Fflur Jones, Partner Rheoli Darwin Gray: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein penodi’n llwyddiannus i’r panel fel y gallwn barhau i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Fel un o gwmnïau masnachol mwyaf blaenllaw Cymru o ran ein gallu yn y Gymraeg, rydym yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd ei rôl a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig i ddiogelu dyfodol y Gymraeg yma yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at barhau i ddarparu cyngor cyfreithiol o’r radd flaenaf i’r Comisiynydd ar bob agwedd o’i gwaith.”