Darwin Gray yn ennill gwobr Twf Busnes y Flwyddyn
Mehefin 10, 2025
Cynhaliwyd y seremoni ar 5 Mehefin yng Nghaerdydd, gan ddod ag arweinwyr Cymru ar draws y proffesiwn cyfreithiol ynghyd i daflu goleuni ar y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yn y sector.
Mae Darwin Gray wedi gweld twf aruthrolyn ystod y 12-24 mis diwethaf, ar ôl ehangu nifer y staff 40%, dyblu trosiant y cwmni, tyfu gofod swyddfa yng Nghaerdydd ac ychwanegu gwasanaethau a phrofiad cyfreithiol newydd at gynnig y cwmni.
Yng nghyhoeddiad diweddaraf y cwmni ar eu twf, gwelwyd nid yn unig nifer o benodiadau newydd ond hefyd dyrchafiad dau Bartner newydd, gan dynnu sylw at ymroddiad y cwmni i feithrin a gwobrwyo gwaith caled a theyrngarwch.
Dywedodd beirniaid Gwobrau Legal News Wales: “Mae Darwin Gray Solicitors yn gwmni sy’n tyfu’n gyflym ac yn cofleidio ethos masnachol miniog. Nododd y beirniaid yn benodol y gwaith newydd ac uchel ei broffil a enillwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd ymrwymiad y cwmni i fod yn ddarparwr cyfreithiol ledled Cymru yn arbennig o nodedig. Llongyfarchiadau Darwin Gray”.
Yn ogystal â'n twf, Darwin Gray wedi gweld llawer o lwyddiannau eraill yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gynnwys 12 apwyntiad tendr llwyddiannus a nifer o wobrau yn y diwydiant.
Dywedodd Partner Rheoli Darwin Gray, Fflur Jones: “Rydym wrth ein bodd yn derbyn y wobr hon a’r gydnabyddiaeth am dwf Darwin Gray ledled Cymru. Mae llwyddiannau’r cwmni yn dyst i ymroddiad a gwaith caled anhygoel ein tîm. Rydym yn falch o fod yn rhan o sector mor ddeinamig yng Nghymru, gan gefnogi a chryfhau cymunedau ledled Cymru a thu hwnt.”
Credyd llun: Matthew Horwood 2025