Gallai etholiad cyffredinol arwain at newidiadau mawr i gyfraith cyflogaeth ym Mhrydain
Mai 28, 2024
Gan Owen John
Yn seiliedig ar gynigion y Blaid Lafur, gallai newid yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig arwain at rai o'r newidiadau mwyaf i gyfraith cyflogaeth mewn 40 mlynedd. Os cânt eu hethol, mae'r Blaid Lafur wedi nodi eu bwriad i gyflwyno llawer o'r newidiadau yma o fewn eu 100 diwrnod cyntaf mewn grym. Rydyn ni wedi edrych ar y newidiadau yma a'r hyn y gallen nhw ei olygu i gyflogwyr isod.
Mwy o hawliau cyflogaeth o'r diwrnod cyntaf
Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i gyflogai fod yn gyflogedig am ddwy flynedd cyn iddyn nhw gael eu hamddiffyn rhag diswyddiad annheg. Yn gyffredinol, mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i gyflogwyr ddiswyddo cyflogeion sydd â llai na dwy flynedd o wasanaeth (os nad yw gwneud hynny'n arwain at risgiau gwahaniaethu neu chwythu'r chwiban).
Mae'r Blaid Lafur yn cynnig sicrhau'r hawl i bob cyflogai beidio â chael eu diswyddo’n annheg o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth – er fod y blaid wedi egluro na fydd hyn yn atal cyflogwyr rhag gallu diswyddo cyflogeion sy’n dal i fod ar eu cyfnod prawf cytundebol.
Ein cyngor ni: Gwnewch yn siŵr fod gennych gontract ar gyfer pob cyflogai newydd, a dylech dynhau geiriad y cymal cyfnod prawf yn eich contractau cyflogaeth. Cysylltwch â ni os oes angen cymorth arnoch gyda hyn.
Gwahardd contractau dim oriau
Er i’r Blaid Lafur ddweud i ddechrau y byddai’n gwahardd contractau dim oriau yn llwyr, maen nhw bellach wedi newid eu safiad ychydig ar y mater, gan ddweud y bydd contractau dim oriau yn cael eu gwahardd oni bai bod unigolyn yn gofyn yn benodol am un. Y cynnig arrall yw cyflwyno hawl i gontract sy'n gwarantu isafswm o oriau gwaith, yn seiliedig ar yr oriau cyfartalog y mae gweithiwr yn gweithio dros gyfnod perthnasol o 12 wythnos.
Ein cyngor ni: Dylech adolygu eich defnydd presennol o gontractau dim oriau ac ystyried, ar y pwynt yma, pa drefniadau amgen a allai weithio i chi. Cysylltwch â ni os hoffech drafod eich opsiynau.
Dileu statws “gweithiwr”
Ar hyn o bryd, mae cyfraith cyflogaeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod tri math o statws cyflogaeth: (i) cyflogai, (ii) gweithiwr a (iii) person hunan-gyflogedig. Fodd bynnag, mae'r Blaid Lafur yn dweud eu bod yn bwriadu lleihau hyn i ddau: (i) cyflogai a (ii) hunan-gyflogedig, gyda gweithwyr yn ennill mwy o hawliau cyfraith cyflogaeth ac yn symud i'r categori 'cyflogai'.
Ein cyngor ni:Dylech gynnal archwiliad o’ch staff presennol – pwy, yn gyfreithiol, fyddai’n cael eu hystyried yn gyflogedig, pwy fyddai’n cael eu hystyried yn weithiwr, a phwy fyddai’n cael eu hystyried yn hunan-gyflogedig? Yna, cynlluniwch o flaen llaw. Mae’n bwysig cael cyngor am gyfraith cyflogaeth a threth ar faterion statws cyflogaeth.
Gwahardd “diswyddo ac ail-gyflogi”
Byddai’r blaid yn rhoi terfyn ar yr arfer o ddiswyddo ac ail-gyflogi, neu “fire and re-hire” yn Saesneg, gan gyflogwyr sydd am wneud newidiadau i gyflog, oriau gwaith neu delerau cyflogaeth eraill eu cyflogeion. Fodd bynnag, ychydig o fanylion sydd wedi’u rhannu hyd yma am y ffordd y byddai hyn yn gweithio. Cadwch lygad am fwy o wybodaeth.
Mwy o amser i gyflwyno hawliadau i'r Tribiwnlys Cyflogaeth
Ar hyn o bryd, yn y rhan fwyaf o achosion, mae gan unigolion dri mis o ddyddiad eu diswyddiad (neu o ddyddiad gweithred honedig o wahaniaethu, chwythu’r chwiban neu dorri cyfraith cyflogaeth) i ddwyn hawliad yn y Tribiwnlys Cyflogaeth. Mae'r Blaid Lafur yn cynnig cynyddu'r cyfnod cyfyngiad yma, gan awgrymu y gellid ei gynyddu i chwe mis. Mae hyn yn debygol o gynyddu nifer yr hawliadau a gaiff eu cyflwyno i'r Tribiwnlys Cyflogaeth.
Ein cyngor ni: Ydych chi wedi ystyried cymryd yswiriant i'ch diogelu rhag risg a chost hawliadau Tribiwnlys Cyflogaeth? Darllenwch fwy yma sut y gallem helpu.
Hawl i ddatgysylltu
Rydyn ni eisoes wedi trafod y datblygiad yma mewn erthygl ddiweddar yma.
Ein cyngor ni: Dylech dynhau geiriad y cymal oriau gwaith yn eich contractau cyflogaeth ac ystyried sut y byddech chi'n gweithredu polisi ar yr hawl i ddatgysylltu.
Adrodd ar fylchau cyflog
Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i gyflogwyr sydd â dros 250 o gyflogeion adrodd am y bylchau cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn (hynny yw, y gwahaniaeth rhwng faint mae cyflogeion gwrywaidd a benywaidd yn ei ennill). Mae'r Blaid Lafur yn cynnig cynyddu'r ddyletswydd yma i gynnwys adrodd ar fylchau cyflog yn ôl ethnigrwydd a bylchau cyflog ar sail anabledd.
Ein cyngor ni: Os yw’r gofynion presennol o ran adrodd ar y bylchau cyflog rhwng y rhywiau yn berthnasol i chi, arhoswch ar flaen y gâd drwy ddadansoddi’r data ar eich bylchau cyflog yn ôl ethnigrwydd ac ar sail anabledd. Cysylltwch â ni os oes angen cymorth arnoch gyda hyn.
Hawliau undebau llafur
Mae’r Blaid Lafur hefyd wedi cynnig diwygio’r cyfreithiau sy’n llywodraethu undebau llafur, gan ei gwneud yn haws o bosib i undebau gael cydnabyddiaeth gan gyflogwyr ac annog y defnydd o gydfargeinio. Mae’r cynigion yma’n debygol o gynnwys proses ymgynghori fanwl gyda’r undebau cyn eu gweithredu, ond dylai cyflogwyr fod yn effro i’r tebygolrwydd o newidiadau yn y maes yma.
A fydd cyfraith cyflogaeth yn newid os nad oes newid yn y Llywodraeth?
Mae ein erthygl ddiweddar yn nodi’r newidiadau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes yn eu rhoi ar waith neu’n bwriadu eu rhoi ar waith yn 2024. Os caiff y Blaid Geidwadol ei hailethol, mae disgwyl iddyn nhw barhau â’r newidiadau yma yn ogystal ag ymgynghori ar newidiadau pellach i drosglwyddiadau TUPE. Y naill ffordd neu’r llall, felly, rydyn ni'n debygol o weld newidiadau mawr i gyfraith cyflogaeth yn 2024-25.
Os oes angen cyngor neu gymorth arnoch gyda'r newidiadau posib yma neu unrhyw gymorth adnoddau dynol gan ein harbenigwyr, cysylltwch ag Owen John ar ojohn@darwingray.com neu drwy ffonio 029 2082 9100 i gael sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut y gallwn eich helpu.