Cyflogwyr: Pa mor Barod Ydych Chi ar gyfer y Gyfraith Aflonyddu Rhywiol Newydd?
Hydref 1, 2024
By Fflur Jones
Beth yw aflonyddu rhywiol?
Mae aflonyddu rhywiol yn digwydd pan fo un gweithiwr yn cymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol digroeso a bod yr ymddygiad â’r pwrpas neu’r effaith o darfu ar urddas gweithiwr arall, neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus i’r gweithiwr arall hwnnw. Mae aflonyddu rhywiol yn fath o gwahaniaethu dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Beth yw'r ddyletswydd newydd ar gyflogwyr?
Bydd angen i gyflogwyr ddangos eu bod wedi cymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar eu staff yn ystod eu cyflogaeth. At hynny, bydd angen i gyflogwyr fod yn rhagweithiol a chymryd camau rhag-weld i atal unrhyw aflonyddu rhywiol cyn iddo ddigwydd.
Bydd y ddyletswydd gadarnhaol newydd hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr atal cyflogeion rhag cael eu haflonyddu’n rhywiol gan drydydd partïon, megis cwsmeriaid, cleientiaid, contractwyr neu aelodau’r cyhoedd.
Sut allwch chi sicrhau eich bod yn barod?
At Darwin Gray, gall ein tîm cyflogaeth ac AD gynorthwyo cyflogwyr gyda'r holl gamau hyn, gan gynnwys cynghori ar asesiadau risg, drafftio polisïau a darparu hyfforddiant. Os oes angen cyngor arnoch ar y ddyletswydd newydd i atal aflonyddu rhywiol, cysylltwch â Fflur Jones on fjones@darwingray.com neu 029 2082 9117 am sgwrs ddi-rwymedigaeth am ddim i weld sut y gallent eich helpu.