Newidiadau Tŷ'r Cwmnïau: Y pethau anghenrheidiol i fusnesau wybod
Hydref 28, 2025
Bydd angen i bob perchennog busnes a chyfarwyddwr fod yn ymwybodol o ofynion newydd Tŷ'r Cwmnïau o ran gwirio pwy ydych chi. Gellid ystyried methu â chydymffurfio yn drosedd.
Ein cyfreithiwr corfforaethol a masnachol, Georgina Rees, sy'n edrych ar yr hyn sy'n newid a'r dyddiadau cau sydd ar ddod.
Yn dilyn cyflwyno Deddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023, mae Tŷ'r Cwmnïau wedi cyflwyno amryw o ddiwygiadau fesul cam, gan ehangu ei bwerau a gwella tryloywder rhwng cwmnïau a Thŷ'r Cwmnïau.
Mae'r cam nesaf i fod i gael ei weithredu ar 18 Tachwedd 2025. Bydd y newidiadau hyn yn golygu ei bod hi'n ofynnol i swyddogion a phersonau â rheolaeth sylweddol (PSCs) dros gwmnïau'r DU gael eu manylion personol wedi'u gwirio.
Er mwyn sicrhau bod cofrestr Tŷ'r Cwmnïau yn cynnwys gwybodaeth fwy cywir, yn ogystal â lleihau'r risg o dwyll, bydd angen i bob cyfarwyddwr, aelod o PAC (ac eithrio aelodau corfforaethol), PRhS ac ysgrifennydd cwmni gydymffurfio â'r gofyniad gwirio hunaniaeth.
Waeth faint o gwmnïau neu PACau y mae unigolyn yn ymwneud â nhw, disgwylir y bydd gwirio yn broses untro. Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y bydd angen ail-wirio, fel amheuaeth o dwyll.
Mae'r dyddiadau cau ar gyfer gwirio hunaniaeth yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n ei chyflawni i'r cwmni fel a ganlyn:
Mae'n bwysig nodi bod unigolion yn gallu gwirio eu hunaniaeth yn wirfoddol cyn y dyddiadau cau. Amcangyfrifir y bydd angen i fwy na 6 miliwn o unigolion wirio eu hunaniaeth dros y 12 mis nesaf, felly efallai y byddai dechrau'r broses yn gynnar yn rhywbeth i'w ystyried.
Mae yna ychydig o opsiynau i'w hystyried wrth ddewis sut i wirio pwy ydych chi. Gallwch ddewis gwirio gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein Tŷ'r Cwmnïau neu drwy Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSP).
Mae'r gwasanaeth hwn yn defnyddio eich cyfrif GOV.UK One Login i wirio'ch hunaniaeth ac mae'n rhad ac am ddim. Bydd gofyn i chi fewngofnodi i neu greu cyfrif GOV.UK One Login i ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein. Bydd y gwasanaeth yn gofyn cwestiynau syml amdanoch chi'ch hun (nid eich cwmni).
Ym mhob achos, bydd eich hunaniaeth ddilys yn gysylltiedig â'ch GOV.UK One Login ac felly, dim ond un person dilys all fod fesul cyfeiriad e-bost. Felly, os ydych chi'n rhannu mynediad i gyfrif GOV.UK One Login cyfredol, bydd angen i chi greu eich cyfrif eich hun gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol.
Pan fyddwch chi'n defnyddio'r gwasanaeth hwn, ystyrir bod eich hunaniaeth wedi'i gwirio o'r dyddiad y byddwch chi'n derbyn cadarnhad e-bost gan Dŷ'r Cwmnïau.
Gallwch ofyn i ACSP wirio'ch hunaniaeth ar eich rhan. Gallai enghreifftiau o ACSP gynnwys cyfrifydd neu gyfreithiwr, y mae'n rhaid iddo fod wedi cofrestru gyda chorff goruchwylio Gwrth-Wyngalchu Arian. Gelwir ACSPs hefyd yn asiant awdurdodedig Tŷ'r Cwmnïau.
Wrth ddefnyddio ACSP, mae gennych y gallu i wirio'ch hunaniaeth waeth beth yw eich gwlad breswyl, ar yr amod bod yr ACSP wedi'i gofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau. Unwaith y bydd ACSP wedi cytuno i wirio'ch hunaniaeth at ddibenion gwirio hunaniaeth Tŷ'r Cwmnïau, byddant yn gofyn am ddogfennaeth hunaniaeth gennych fel tystiolaeth o'ch hunaniaeth o restr gymeradwy a ddarperir iddynt.
Os ydych chi'n defnyddio'r gwasanaeth hwn, ystyrir eich bod wedi'ch gwirio at y dibenion hyn o'r dyddiad y mae'r ACSP yn ffeilio'r datganiad gwirio.
Unwaith y byddwch wedi gwirio eich hunaniaeth yn llwyddiannus, byddwch yn cael côd personol unigryw Tŷ'r Cwmnïau. Bydd y côd hwn yn bersonol i chi fel unigolyn yn hytrach nag i'ch cwmni. Yna bydd eich côd yn cael ei ddefnyddio i gysylltu eich holl swyddi cyfarwyddwyr ac unrhyw gofrestriadau PRhS sydd gennych yn uniongyrchol â'ch hunaniaeth ddilys ar gyfer cofnodion Tŷ'r Cwmnïau.
O hyn ymlaen, gofynnir am eich côd am amryw o resymau megis:
O bryd i'w gilydd, efallai y gofynnir i chi rannu eich côd gyda'ch cyfreithwyr a/neu gyfrifwyr. Mae'n bwysig eich bod ond yn rhannu eich côd unigryw gyda phobl rydych chi'n ymddiried ynddynt i wneud eich ffeilio i Dŷ'r Cwmnïau ar eich rhan chi neu ran eich cwmni.
O 18 Tachwedd 2025 ymlaen, mae'n ofyniad gorfodol gwirio'ch hunaniaeth cyn y dyddiad cau sy'n ddibynnol ar eich rôl. Os dewiswch beidio â gwirio'ch hunaniaeth yn barod ar gyfer hyn, byddwch yn cyflawni trosedd. Gallai methu â gwirio hefyd arwain at gosb ariannol. Yn ogystal â hyn, ni fyddwch yn gallu gwneud ffeilio ar ran eich cwmni na chorffori unrhyw endidau newydd. Gallai hyn hefyd achosi goblygiadau mewn cyfarfodydd bwrdd, yn enwedig ar gwblhau trafodion corfforaethol os yw cyfarwyddwyr i'w penodi ar ôl cwblhau.
Os na allwch wneud ffeilio ar ran eich cwmni, gallai hyn arwain at broblemau diffyg cydymffurfio ychwanegol fel methu â chyflawni eich datganiad cadarnhau erbyn y dyddiad cau. Os na fyddwch yn cyflawni hyn, gallai fod cosbau pellach oherwydd ffeilio'n hwyr.
Bydd unrhyw gyfarwyddwyr neu aelodau PAC sy'n parhau i weithredu yn eu rolau heb wirio eu hunaniaeth, ar ôl iddo ddod yn ofyniad cyfreithiol, yn cyflawni trosedd a gellid eu gwahardd. Gall y cwmni a'r holl gyfarwyddwyr (p'un a ydynt wedi'u gwirio ai peidio) hefyd fod yn cyflawni trosedd. Yn yr un modd, gall unrhyw PRhS nad yw wedi gwirio eu hunaniaeth, ond sy'n parhau yn eu rôl ar ôl iddo ddod yn orfodol, fod yn cyflawni trosedd.
Mae hefyd yn bwysig cofio bod y camau nesaf o ddilysu hunaniaeth i'w cyflwyno ar ôl y cam hwn ar gyfer:
Bydd cam nesaf y gofynion yn dechrau yng Ngwanwyn 2026, pan fydd yn rhaid gwirio hunaniaeth yr unigolion sy'n cyflwyno gwybodaeth ar ran cwmni. Rydym yn argymell eich bod yn ystyried eich arferion ffeilio cyffredinol i sicrhau bod cynllun ar waith wrth i'r camau hyn agosáu.
Os hoffech siarad ag un o'n harbenigwyr cyfraith gorfforaethol/fasnachol am unrhyw un o'r uchod, cysylltwch â ni am drafodaeth am ddim heb unrhyw rwymedigaeth ar 02920 829 100, helo@darwingray.com neu trwy ein Ffurflen Cysylltwch â Ni.