Hawl Newydd o "ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth" i weithwyr yn cael ei gyflwyno yn fuan – 1 Awgrym i Gyflogwyr

Awst 20, 2024

Gan Owen John

Gyda galwadau cynyddol ar Lywodraeth y DU i egluro sut y bydd eu bwriad o gyflwyno amddiffyniadau cyflogaeth o “ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth” i holl weithwyr y DU yn gweithio, mae ein harbenigwyr cyfraith cyflogaeth yn edrych ar sut y bydd y newid mawr yma yn effeithio ar gyflogwyr a sut y gallant baratoi ar ei gyfer.

Beth yw'r gyfraith ar hyn o bryd?

O dan cyfraith cyflogaeth y DU, yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n rhaid i gyflogeion aros nes eu bod wedi cwblhau 2 flynedd o gyflogaeth gyda’u cyflogwr cyn bod ganddynt yr hawl i beidio â chael eu diswyddo’n annheg. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i gyflogwyr ddiswyddo unrhyw gyflogeion newydd os ydynt yn camymddwyn neu os nad ydynt yn addas ar gyfer y rôl, ac fe olyga hefyd nad yw gweithwyr achlysurol yn mwynhau’r un amddiffyniadau â gweithwyr parhaol. Fodd bynnag, mae gan y mwyafrif helaeth o weithwyr hawliau ar hyn o bryd megis chwythu'r chwiban ac gwahaniaethu o ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth.

Beth yw'r newidiadau arfaethedig mewn cyfraith cyflogaeth?

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu trawsnewid rheolau cyfraith cyflogaeth trwy ddileu’r trothwy 2 flynedd ar gyfer hawliadau diswyddo annheg (ynghyd â hawliau eraill sy’n gysylltiedig â phethau fel gweithio’n hyblyg). Maent hefyd wedi datgan eu bwriad i ddileu’r gwahaniaeth rhwng “gweithwyr” parhaol a “gweithwyr” achlysurol fel bod gan bawb yn y categorïau hyn yr un hawliau o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth.

Pryd fydd hyn yn digwydd?

Cafodd amlinelliad bras o’r cynigion eu cyflwyno ym maniffesto’r blaid Lafur cyn yr etholiad a chadarnhawyd y byddant yn cael eu cyflwyno yn Araith y Brenin yn ddiweddar. Gan fod Llafur wedi ymrwymo i gyflwyno'r newidiadau i'r Senedd o fewn eu 100 diwrnod cyntaf mewn grym, rydym yn disgwyl rhagor o fanylion erbyn canol mis Hydref 2024. Cadwch lygad ar ein tudalen diweddariadau cyfraith cyflogaeth fyw i gael rhagor o fanylion pan gânt eu rhyddhau.

Sut y gallai'r newidiadau yma effeithio ar gyflogwyr?

Mae Llywodraeth y DU yn credu y bydd y newidiadau hyn i gyfraith cyflogaeth yn achosi’r farchnad swyddi i symud gan gynyddu twf economaidd, oherwydd bydd gweithwyr yn teimlo’n fwy cyfforddus i symud o gwmpas os ydynt yn ymwybodol bod ganddynt amddiffyniadau cyflogaeth o’r diwrnod cyntaf mewn swydd newydd. Fodd bynnag, yn y tymor byr o leiaf, mae’n debygol y bydd y newidiadau hefyd yn arwain at gynnydd mewn hawliadau diswyddo annhegyn enwedig os yw cyflogwyr yn araf yn gweithredu ar y cyfreithiau newydd. Mae’n debygol hefyd y byddwn yn gweld cynnydd mewn anghydfodau mewnol yn y gweithle megis cwynion ac achosion ac y gall recriwtio arafu tra bod y newidiadau yma'n dod i rym.

O ystyried bydd yr hawl i gyflwyno hawliadau diswyddo annheg yn parhau i fod yn amodol ar hawl cyflogwyr i ddefnyddio cyfnodau prawf cytundebol ar gyfer recriwtiaid newydd, bydd y contract cyflogaeth yn dod yn arf hanfodol i gyflogwyr sydd yn ceisio amddiffyn eu hunain rhag hawliadau gan weithwyr cyflogedig diweddar.

Ein argymhellion i gyflogwyr

Dyma 5 awgrym gan ein harbenigwyr cyfraith cyflogaeth i gyflogwyr wrth baratoi ar gyfer y newidiadau yma:

  1. Cryfhewch eich cytundebau cyflogaeth. Unwaith y daw’r rheolau newydd i rym, bydd cyfnodau prawf cytundebol yn bwysicach nag erioed. Cadwch lygad ar dudalen diweddariadau byw Darwin Gray i glywed y manylion am sut y bydd hyn yn gweithio ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi, a cysylltwch â ni os oes angen help arnoch i adolygu eich cytundebau.
  2. Sicrhewch eich bod yn recriwtio yn gywirOs ydych yn recriwtio yn llwyddiannus, mae’n llai tebygol y bydd angen i chi ystyried diswyddiadau. Dylech adolygu eich prosesau recriwtio, disgrifiadau swydd a hysbysebion, a gwnewch yn siŵr bod rheolwyr recriwtio yn gyfarwydd â thechnegau cyfweld effeithiol.
  3. Sicrhewch bod eich gweithdrefnau disgyblu, gallu a diswyddo yn gadarn. Mae angen i’ch dogfennau polisi ysgrifenedig a’r ffordd yr ydych yn eu rhoi ar waith yn ymarferol fod yn gyfoes. Sicrhewch fod rheolwyr wedi’u hyfforddi i gynnal ymchwiliadau, gwrandawiadau a gwneud penderfyniadau pwysig, neu ystyriwch roi eich achosion anodd ar gontract allanol i’n harbenigwyr AD os oes angen.
  4. Gofynnwch am gyngor cyfreithiol wrth ystyried diswyddiadau.Bydd hyn yn bwysicach nag erioed unwaith y bydd pob gweithiwr wedi’u hamddiffyn rhag gael eu diswyddo’n annheg, gan na fydd hi yn bosibl mwyach i ddiswyddo mewn modd “diogel” hyd yn oed mewn achosion sydd yn ymddangos yn syml.
  5. Ystyriwch yswiriant costau cyfreithiol.Er fod hyn yn golygu costau ychwanegol, gall dalu ar ei ganfed yn yr hir dymor os ydyw hefyd yn gwarchod eich costau cyfreithiol o amddiffyn unrhyw hawliadau cyflogaeth yn eich erbyn. Cysylltwch ag aelod o dîm Darwin Gray ynglyn â hyn.

 

Mae’n hanfodol bod cyflogwyr ar flaen y gad pan ddaw at y newidiadau hyn a’r newidiadau eraill i gyfraith cyflogaeth y mae’r Llywodraeth newydd yn bwriadu eu cyflwyno yn yr ychydig fisoedd nesaf. Cysylltwch â’n harbenigwr cyfraith cyflogaeth, Owen Johntrwy ebostio ojohn@darwingray.com neu ffonio 029 2082 9118 os oes angen arweiniad arnoch ar adolygu a chryfhau eich arferion cyflogaeth.

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Alun Saunders
Swyddog Marchnata
Gweld Proffil
Amanda Scanlon
Cynorthwy-ydd Gweithredol
Gweld Proffil
Anna Rees
Pennaeth Marchnata
Gweld Proffil
Caragh McCormack
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Gweld Proffil
Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Charles Collar
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Cindy Thomas
Uwch Reolwr Cyfrifon
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Denna Cather
Goruchwyliwr Swyddfa
Gweld Proffil
Elin Davies
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Elliw Jones
Cymrawd
Gweld Proffil
Emily Shingler
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Erin Phillips
Uwch Weithredwr Marchnata
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Fiona Hughes
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Fiona Sinclair
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Georgina Rees
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Geraint Manley
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Gweld Proffil
Grace Jarrett
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Gwen Hughes
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Heledd Ainsworth
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Heledd Evans
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Holly O'Regan
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Gweld Proffil
Iwan Price
Derbynnydd / Cynorthwyydd Swyddfa Gyfreithiol
Gweld Proffil
Jessica Hayward
Cymrawd
Gweld Proffil
Kadell Khalid
Ysgrifennydd / Gweinyddwr AD
Gweld Proffil
Kate Heaney
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Leanne Nixon
Cymrawd
Gweld Proffil
Lisa Evans
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Lloyd Pike
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Lorna Fraser
Cymrawd
Gweld Proffil
Lowri Evans
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Mike Raymond
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Nicole Brendel
Cymrawd
Gweld Proffil
Non Kinsey
Cymrawd
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Ramyar Hassan
Cymrawd
Gweld Proffil
Rhodri Lewis
Ymgynghorydd
Gweld Proffil
Rohey Jomadar
Cymrawd
Gweld Proffil
Sarah Price
Cyfarwyddwr Cyfreithiol
Gweld Proffil
Seren Trigg
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Siriol Hughes
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Stephanie Kendall
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Stephen Lummis
Rheolwr Cyfrifon
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil
Tiegan James
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Tracey Holland
Rheolwr Cyllid
Gweld Proffil
Vanessa Lovell
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...