Gorffennaf 21, 2025
Gan Heledd Ainsworth
Ers lansiad ChatGPT a chynhyrchyddion AI eraill, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion a gyflwynir gan weithwyr yn y DU. Mae ein cyfreithwraig cyflogaeth, Heledd, yn archwilio pam mae hyn wedi digwydd a sut all cyflogwyr ymateb.
Byddwn yn trafod y pwnc hwn ymhellach mewn gweminar 45-munud sy’n rhad ac am ddim: Robotiaid, Hawliau a Risgiau: AI a Dyfodol Cyfraith CyflogaethMae’r gweminar hon yn rhan o’n cyfres o weminarau am ddim yn ystod yr Hydref: Diweddariad i Cyfraith Cyflogaeth / Employment Law Unpacked. Ceir rhagor o wybodaeth yma.
Cafodd ChatGPT ei gyflwyno ar 30 Tachwedd 2022. Fe’i ystyrrir yn fan lansio ar gyfer nifer o offer AI eraill sydd bellach ar gael i’r cyhoedd.
Mae goblygiadau twf o’r fath mewn technoleg AI yn rhai pellgyrhaeddol iawn. Mae AI eisoes yn cael effaith go fawr ar ein bywydau mewn sawl ffordd, gan gynnwys yn y gweithle. Fodd bynnag, un peth na fyddai llawer ohonom wedi ei ddisgwyl yw’r effaith mae twf AI wedi’i gael ar nifer y cwynion a godir gan weithwyr.
Gall codi cwyn fod yn brofiad anodd i lawer o weithwyr. Er bod rhai pobl yn fwy hyderus yn gwneud hynny nag eraill, mae llawer yn ei chael hi’n anodd i fynegi eu pryderon mewn ffordd glir a chydlynol. Dyma lle mae offer fel ChatGPT yn camu i'r adwy.
Gyda chymorth chatbot AI pwerus sydd yn gallu troi prompt syml yn gwyn o fil o eiriau, mae gan fwy o weithwyr nag erioed y potensial i allu codi cwyn. Yn ogystal â hyn, gellir defnyddio offer AI i gynhyrchu llythyrau cwyn cymhleth iawn, sy’n ei gwneud hi’n anodd i gyflogwyr ddelio â nhw.
O’n profiad ni fel cyfreithwyr cyflogaeth, mae'n dod yn fwyfwy cyffredin i gleientiaid sy’n gyflogwyr i gysylltu â ni am gyngor ynghylch cwynion sy’n amlwg wedi’u hysgrifennu gan AI. Gellir canfod yn eithaf hawdd p’un a yw cwyn wedi’i chreu gan AI trwy ddefnyddio canfodydd AI ar-lein am ddim (megis Zero GPT neu Scribbr). Er hyn, y cwestiwn anodd yw – beth wedyn? A oes rhaid i gyflogwyr ddelio â chwynion gan AI o hyd? A ddylid eu trin yn wahanol? A ddylai cyflogwyr boeni am gwestiynau diogelu data a chyfrinachedd pan fydd gweithwyr yn mewnbynnu data sensitif i offer AI cyhoeddus?
Dyma ein prif argymhellion:
- Mae cwyn a ysgrifennwyd gan AI yn dal i fod yn gwyn dilysRydym wedi ystyried p’una ddylem argymell i’n cleientiaid newid eu gweithdrefnau cwyno i gynnwys datganiad eu bod yn cadw’r hawl i wrthod delio â chwyn sydd wedi’i hysgrifennu gan AI. Fodd bynnag, nid ydym yn credu mai dyna’r dull priodol na chyfreithlon i’w ddilyn. Mewn gwirionedd, petai’r gŵyn wedi’i hysgrifennu gan gyfreithiwr ar ran gweithiwr, gan ffrind y teulu, gan ddefnyddio canlyniadau chwilio Google, neu drwy ddefnyddio offer AI – mae’n dal i fod yn gwyn. Mae Cod ACAS yn dweud bod rhaid i gyflogwyr ymchwilio i gwynion ac ymdrin â nhw, ac mae’n deler ymhlygym mhob contract cyflogaeth yn y DU bod gan weithwyr hawl i gael eu cwynion wedi’u clywedfel rhan o ddyletswydd y cyflogwr o "ymddiriedaeth a hyder". Felly, ni ddylai cyflogwyr wrthod delio â chwyn oherwydd y modd neu’r teclyn ddefnyddiwyd i’w hysgrifennu.
- Mae hi’n werth defnyddio canfodydd AI. Mae sawl canfodydd AI am ddim ar-lein y gellir eu defnyddio’n gyflym i ganfod a yw cwyn wedi’i chreu gan AI.
- Diweddarwch eich gweithdrefn gwyno. Dylai hyn gynnwys datganiad eich bod yn cadw’r hawl i ddefnyddio canfodydd AI ar unrhyw gwynion a gyflwynir.
- Y sefyllfa fregus o ran cyfrinachedd a diogelu data. Os yw cyflogwr wedi defnyddio canfodydd AI, a bod y canfodydd yn dangos bod y gwyn wedi’i chreu gan AI, mi ddylai’r cyflogwr fod yn ymwybodol o’r pryderon a godir o safbwynt cyfrinachedd a diogelu data. Gwan iawn yw polisïau data llawer o offer AI cyhoeddus (rhad ac am ddim), megis ChatGPT. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw ddata cyfrinachol y mae gweithiwr yn ei fewnbynnu (e.e. i greu cwyn) gael ei ddefnyddio i “hyfforddi” y teclun. Hynny yw, gall y data hynny gael ei ddefnyddio mewn atebion neu allbwn i gwestiynau gan bobl eraill yn y dyfodol. Mae hyn nid yn unig yn peri pryder o safbwynt cyfrinachedd, ond hefyd yn achosi pryderon sylweddol o ran diogelu data .
- Sicrhewch fod gennych bolisi AI mewn lle yn y gweithle. Dylai’r polisi gynnwys, ymhlith pethau eraill, na ddylai gweithwyr fewnbynnu data cyfrinachol neu sensitif i offer AI, ac os wnânt, bod gennych yr hawl i gymryd camau disgyblu.
- Hyfforddwch eich rheolwyrGyda’r cynnydd mewn cwynion, nid yw erioed wedi bod mor bwysig i hyfforddi a datblygu’r staff perthnasol i ddelio’n effeithiol ac yn effeithlon â chwynion. Yn anffodus, ni fydd hi’n bosib i gyflogwyr ddefnyddio dulliau wedi’u gyrru gan AI i brosesu a delio â chwynion, gan fod gweithdrefnau o dan God ACAS yn mynnu bod ymchwiliadau a gwrandawiadau cwynion yn cymryd lle– felly bydd y broses yn dal i fynnu mewnbwn dynol.
Os ydych chi’n chwilio am gyngor ynglŷn â’r uchod, neu bwnc tebyg, cysylltwch â’n harbenigwyr cyfraith cyflogaeth ar 02920 829 100 neu drwy ein ffurflen gyswllt.
Am ragor o fanylion am ein cyfres o weminarau ar y newidiadau i Gyfraith Cyflogaeth sydd ar y gorwel, sy’n cynnwys pynciau megis camymddwyn digidol i niwroamrywiaeth, ewch i’n tudalen digwyddiadau.