Newidiadau Angenrheidiol i Lawlyfrau Staff yn 2024

Chwefror 16, 2024

Gan Owen John

Bydd newidiadau mawr i Gyfraith Cyflogaeth yn 2024. Er mwyn osgoi cael eich gadael ar ôl, mae ein tîm cyflogaeth yn amlinellu'r diweddariadau y bydd angen i bob cyflogwr eu gwneud i’w Llawlyfr Staff yn y misoedd nesaf. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm cyflogaeth drwy ffonio 02920 829 100 neu yma.

 

POLISÏAU NEWYDD SYDD EU HANGEN

 

Polisi Absenoldeb Gofalwyr

Erbyn pryd? 6 Ebrill 2024

Bydd gweithwyr yn cael hawl gyfreithiol newydd i gymryd wythnos o wyliau di-dâl y flwyddyn er mwyn darparu neu drefnu gofal ar gyfer dibynnydd sydd ag angen gofal hirdymor. Bydd hwn yn hawl o’u diwrnod cyntaf yn y swydd. Mwy o fanylion yma.

 

Polisi Absenoldeb Gofal Newyddenedigol

Erbyn pryd?  Yn ddiweddarach yn 2024 (yr union ddyddiad i'w gadarnhau)

Bydd gan rieni plant sy'n derbyn gofal newyddenedigol hawl newydd i gymryd hyd at 12 wythnos o absenoldeb. Bydd hwn yn hawl o’u diwrnod cyntaf yn y swydd ac yn hawl ar wahân i fathau eraill o absenoldeb, er enghraifft absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir.

 

Polisi Hawl i Ofyn am Batrwm Gweithio Rhagweladwy

Erbyn pryd?  Mis Medi 2024

Bydd unigolion sy’n gweithio oriau afreolaidd (ee gweithwyr dim oriau) nawr yn gallu gofyn am batrwm gwaith mwy rhagweladwy gan eu cyflogwr. Bydd gan y cyflogwr fis i ddelio â'r cais ac i ymateb iddo. Mwy o fanylion yma.

 

POLISÏAU I’W DIWEDDARU

 

Polisi Absenoldeb Tadolaeth

Erbyn pryd?  6 Ebrill 2024

Bellach bydd gan dadau a phartneriaid lawer mwy o hyblygrwydd wrth gymryd absenoldeb tadolaeth. Er enghraifft, byddan nhw bellach yn gallu cymryd cyfnod o absenoldeb ar unrhyw adeg o fewn y flwyddyn gyntaf ar ôl genedigaeth y plentyn a byddan nhw’n gallu cymryd absenoldeb dros mwy nag un cyfnod. Bydd y cyfnod rhybudd ar gyfer hysbysu'r cyflogwr am y bwriad i gymryd absenoldeb tadolaeth hefyd yn lleihau i 28 diwrnod. Mwy am y newidiadau i absenoldeb tadolaeth yma.

 

Polisi Diswyddo a Pholisi Mamolaeth

Erbyn pryd? 6 Ebrill 2024

Ar hyn o bryd, mae gweithwyr sydd ar absenoldeb mamolaeth yn cael blaenoriaeth o ran cael cynnig unrhyw swyddi gwag eraill addas yn ystod proses ddiswyddo. Fodd bynnag, bydd yr amddiffyniad yma’n cael ei ymestyn i'r rhai sydd wedi hysbysu eu cyflogwr eu bod yn feichiog a hefyd i'r rhai sydd wedi dychwelyd i gyfnod o absenoldeb mamolaeth yn ddiweddar ac wedi rhoi genedigaeth yn ystod y 18 mis blaenorol.

 

Polisi gweithio hyblyg

Erbyn pryd?  6 Ebrill 2024

Er mai dim ond un cais gweithio hyblyg y flwyddyn y gall gweithwyr ei wneud ar hyn o bryd ar ôl cael eu cyflogi am o leiaf chwe mis, bydd hyn nawr yn cynyddu i ddau gais y flwyddyn a bydd ar gael o ddiwrnod cyntaf cyflogaeth y gweithiwr. Bydd yr amser sydd gan gyflogwyr i ymateb hefyd yn lleihau o dri mis i ddau fis. Mwy o fanylion yma.

 

Polisi Gwrth-Aflonyddu a Bwlio

Erbyn pryd? Mis Hydref 2024

Bellach bydd dyletswydd gadarnhaol a rhagweithiol ar gyflogwyr i gymryd camau i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Bydd angen i'r ddyletswydd yma gael ei hadlewyrchu mewn Polisïau Gwrth-aflonyddu a Bwlio.

 

Os oes angen cymorth arnoch i adolygu a diweddaru eich polisïau er mwyn adlewyrchu’r newidiadau uchod, cysylltwch ag Owen John drwy ffonio 02920 829 118 neu ojohn@darwingray.com i gael sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut y gallwn eich helpu.

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Alun Saunders
Swyddog Marchnata
Gweld Proffil
Amanda Scanlon
Cynorthwy-ydd Gweithredol
Gweld Proffil
Anna Rees
Pennaeth Marchnata
Gweld Proffil
Caragh McCormack
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Gweld Proffil
Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Charles Collar
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Cindy Thomas
Uwch Reolwr Cyfrifon
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Denna Cather
Goruchwyliwr Swyddfa
Gweld Proffil
Elin Davies
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Elliw Jones
Cymrawd
Gweld Proffil
Emily Shingler
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Erin Phillips
Uwch Weithredwr Marchnata
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Fiona Hughes
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Fiona Sinclair
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Georgina Rees
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Geraint Manley
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Gweld Proffil
Grace Jarrett
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Gwen Hughes
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Heledd Ainsworth
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Heledd Evans
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Holly O'Regan
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Gweld Proffil
Iwan Price
Derbynnydd / Cynorthwyydd Swyddfa Gyfreithiol
Gweld Proffil
Jessica Hayward
Cymrawd
Gweld Proffil
Kadell Khalid
Ysgrifennydd / Gweinyddwr AD
Gweld Proffil
Kate Heaney
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Leanne Nixon
Cymrawd
Gweld Proffil
Lisa Evans
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Lloyd Pike
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Lorna Fraser
Cymrawd
Gweld Proffil
Lowri Evans
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Mike Raymond
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Nicole Brendel
Cymrawd
Gweld Proffil
Non Kinsey
Cymrawd
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Ramyar Hassan
Cymrawd
Gweld Proffil
Rhodri Lewis
Ymgynghorydd
Gweld Proffil
Rohey Jomadar
Cymrawd
Gweld Proffil
Sarah Price
Cyfarwyddwr Cyfreithiol
Gweld Proffil
Seren Trigg
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Siriol Hughes
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Stephanie Kendall
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Stephen Lummis
Rheolwr Cyfrifon
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil
Tiegan James
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Tracey Holland
Rheolwr Cyllid
Gweld Proffil
Vanessa Lovell
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...