Pan fydd cynlluniau'n newid: sut mae datrys heriau yn ymwneud ag Ysgutor a Buddiolwyr wrth ddehongli Ewyllysiau

Gorffennaf 21, 2025

By Elliw Jones

Wrth baratoi Ewyllys, mae'r rhan fwyaf o bobl yn cymryd yn ganiataol y bydd yr Ysgutorion a’r Buddiolwyr a benodwyd ganddynt yn dal yn fyw ac yn barod i gyflawni eu rolau pan ddaw’r amser iddynt wneud hynny.

Fodd bynnag, gall amgylchiadau newid. Mae’n bosib y bydd Ysgutorion yn marw, neu y darganfyddir eu bod yn amharod neu’n methu gweithredu ac felly y byddant yn rhoi’r gorau i’w rôl. Mewn rhai achosion, mae’n bosib y cyfyd sefyllfa lle fydd pob Buddiolwr a enwyd yn yr Ewyllys yn marw cyn y person a luniodd yr Ewyllys.

Gall y sefyllfaoedd hyn gymhlethu gweinyddu’r ystâd a chreu straen diangen i aelodau’r teulu.

Yn yr erthygl hon, mae ein harbenigwraig ym maes Ewyllysiau a Phrofiant, Elliw, yn archwilio’r hyn sydd yn digwydd mewn sefyllfaoedd o’r fath a sut y gall cynllunio gofalus helpu i liniaru’r risgiau.

Beth sy'n digwydd pan fydd yr Ysgutorion a enwyd mewn ewyllys yn marw?

Ysgutor yw’r person a enwir mewn ewyllys i reoli ac i ddosbarthu asedau’r unigolyn a luniodd yr Ewyllys. Dylid dewis unigolyn galluog ac y gellir ymddiried ynddynt i gyflawni’r rôl hon.

Os bydd yr Ysgutor yn marw cyn yr unigolyn a luniodd yr Ewyllys, neu ar ôl iddynt farw ond cyn y rhoddir profiant, ac nad oes Ysgutor arall wedi’i enwi yn yr Ewyllys, mae’r Ewyllys yn ‘ddi-weithredwr’ ac mae’n rhaid i rywun arall gamu i mewn i ymgymryd â’r cyfrifoldeb. Fel arfer, y person(au) sy’n hawlio’r gyfran fwyaf o’r ystâd fydd â’r hawl i wneud cais am Lythyrau Gweinyddu ac i ddelio â’r ystâd yn eu lle.

Beth os bydd yr Ysgutor yn yn rhoi’r gorau i’w rôl?

Os ydy’r Ysgutor yn penderfynu na allant weithredu, gallant ‘ymwrthod’ – hynny yw rhoi’r gorau i’w hawliau cyfreithiol a’u cyfrifoldebau o weinyddu’r ystâd yn ffurfiol. Os, unwaith eto, nad oes Ysgutor arall wedi’i enwi yn yr Ewyllys, yna’r Ysgutor sy’n debygol o dderbyn y gyfran fwyaf o’r ystâd fydd yn gyfrifol am ei gweinyddu. Mae’r un peth yn berthnasol os yw’r Ysgutor wedi colli galluedd meddyliol.

Sut i leihau'r risg hon

Er mwyn osgoi sefyllfaoedd o’r fath, rydym yn argymell penodi mwy nag un Ysgutor (ac, os yn bosibl, un sydd ychydig yn iau – efallai fel Ysgutor(ion) wrth gefn).

Fel arall, neu yn ychwanegol, mae’n werth ystyried penodi Ysgutorion proffesiynol megis cyfreithwyr.

Mae manteision penodi ysgutorion proffesiynol yn cynnwys:

  • bydd rhywun ar gael ac yn barod bob amser i weithredu fel Ysgutor
  • bydd cyfreithiwr profiadol ym maes Ewyllysiau a Phrofiant, sy’n gyfarwydd â materion cyfreithiol ac ariannol cymhleth, yn cael eu penodi
  • mae ysgutor proffesiynol yn annibynnol ac yn gallu atal anghydfodau teuluol, gan sicrhau gweinyddu’r ystâd yn unol â’r Ewyllys a’r gyfraith
  • mae hefyd yn lleihau’r baich ar y teulu sy’n galaru colled anwyliaid

Beth sy’n digwydd os bydd pob Buddiolwr a enwir yn yr Ewyllys wedi marw?

Bydd hyn yn dibynnu ar p’un a wnaethant farw cyn neu ar ôl yr ewyllyswr (sef y person a luniodd yr Ewyllys). Os byddant yn marw cyn yr ewyllyswr, ac nad oes buddiolwyr arall wedi’u henwi, bydd yr ystâd yn cael ei weinyddu yn ôl rheolau di-Ewyllys (intestacy). O dan y rheolau hyn, bydd yr ystâd yn cael ei rhannu yn ôl trefn benodedig o berthnasau (priod, plant, rhieni, brodyr/chwiorydd ac ati).

Os nad oes unrhyw berthnasau cymwys yn goroesi, bydd yr ystâd yn dod yn "bona vacantia" ac yn cael ei throsglwyddo i'r Goron.

Sut i osgoi'r risg hon

Mae Ewyllys sydd wedi’i llunio’n ofalus, sy’n cynnwys darpariaethau ar gyfer Buddiolwyr ychwanegol neu elusennau fel darpar dderbynwyr, yn golygu bod risg fach iawn i’r ystâd gael ei ystyried yn un heb Ewyllys a’i throsglwyddo i’r Goron. Cyfeirir at y rhain yn aml fel "buddiolwyr trychineb" gan mai dim ond pe bai’r teulu agosaf (e.e. partner, plant) wedi marw cyn yr ewyllyswr y byddant yn derbyn unrhyw etifeddiaeth.

Un opsiwn i fuddiolwyr gweddilliol yw cynnwys cymal ‘per stirpes’, sy’n sicrhau y bydd disgynyddion uniongyrchol y derbynnydd gwreiddiol (e.e. plant neu wyrion) yn etifeddu eu cyfran pe byddai eu rhiant wedi marw.

Beth os bydd Ewyllysiwr yn marw ar ôl y Buddiolwr?

Yn y mwyafrif o achosion, bydd ystâd y Buddiolwr yn gymwys i dderbyn yr etifeddiaeth. Yr eithriad yw os oedd cymal goroesi yn yr Ewyllys – hynny yw, bod yr ewyllyswr wedi nodi y dylai’r Buddiolwr oroesi am nifer benodol o fisoedd wedi marwolaeth yr ewyllyswr er mwyn derbyn yr etifeddiaeth.

Pryd y dylid diweddaru Ewyllys?

Mae’n hanfodol diweddaru Ewyllys yn rheolaidd er mwyn adlewyrchu newidiadau mawr bywyd megis priodas, ysgariad, geni plentyn neu, fel y trafodwyd uchod, marwolaeth Ysgutorion neu Fuddiolwyr. Bydd gweithio gyda chyfreithiwr profiadol ym maes Ewyllysiau a Phrofiant yn sicrhau bod eich Ewyllys yn ddilys yn gyfreithiol ac yn adlewyrchu eich dymuniadau. Gallant hefyd eich helpu i lywio’r broses gynllunio a darparu arweiniad ar faterion cyfreithiol cymhleth.

Os hoffech chi siarad ag un o'n Ewyllysiau a Phrofiant arbenigwyr, cysylltwch am drafodaeth am ddim heb unrhyw rwymedigaeth ar 02920 829 100 neu trwy ein ffurflen gyswllt.

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Alun Saunders
Swyddog Marchnata
Gweld Proffil
Amanda Scanlon
Cynorthwy-ydd Gweithredol
Gweld Proffil
Anna Rees
Pennaeth Marchnata
Gweld Proffil
Caragh McCormack
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Gweld Proffil
Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Charles Collar
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Cindy Thomas
Uwch Reolwr Cyfrifon
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Denna Cather
Goruchwyliwr Swyddfa
Gweld Proffil
Elin Davies
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Elliw Jones
Cymrawd
Gweld Proffil
Emily Shingler
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Erin Phillips
Uwch Weithredwr Marchnata
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Fiona Hughes
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Fiona Sinclair
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Georgina Rees
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Geraint Manley
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Gweld Proffil
Grace Jarrett
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Gwen Hughes
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Heledd Ainsworth
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Heledd Evans
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Holly O'Regan
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Gweld Proffil
Iwan Price
Derbynnydd / Cynorthwyydd Swyddfa Gyfreithiol
Gweld Proffil
Jessica Hayward
Cymrawd
Gweld Proffil
Kadell Khalid
Ysgrifennydd / Gweinyddwr AD
Gweld Proffil
Kate Heaney
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil
Leanne Nixon
Cymrawd
Gweld Proffil
Lisa Evans
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Lloyd Pike
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Lorna Fraser
Cymrawd
Gweld Proffil
Lowri Evans
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Mike Raymond
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Nicole Brendel
Cymrawd
Gweld Proffil
Non Kinsey
Cymrawd
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Ramyar Hassan
Cymrawd
Gweld Proffil
Rhodri Lewis
Ymgynghorydd
Gweld Proffil
Rohey Jomadar
Cymrawd
Gweld Proffil
Sarah Price
Cyfarwyddwr Cyfreithiol
Gweld Proffil
Seren Trigg
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Siriol Hughes
Paragyfreithiwr
Gweld Proffil
Stephanie Kendall
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Stephen Lummis
Rheolwr Cyfrifon
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil
Tiegan James
Cyfreithiwr
Gweld Proffil
Tracey Holland
Rheolwr Cyllid
Gweld Proffil
Vanessa Lovell
Uwch Gymrawd
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...