Pam mae Cytundeb Cyfranddalwyr yn Bwysig – Canllaw i Fusnesau Bach a Chanolig
Hydref 12, 2022
Gan Stephen Thompson
Beth yw cytundeb cyfranddalwyr?
Contract cyfreithiol rhwng cyfranddalwyr cwmni yw cytundeb cyfranddalwyr. Fel arfer maen nhw’n gytundebau preifat a chyfrinachol rhwng cyfranddalwyr sy'n nodi telerau amrywiol y cytunwyd arnyn nhw rhwng y cyfranddalwyr mewn perthynas â'u cyfranddaliadau yn y cwmni a sut gellir gwneud penderfyniadau yn y cwmni.
Does neb yn cychwyn busnes gyda'r bwriad o ffraeo gyda'u cyd-sylfaenwyr neu fuddsoddwyr eraill. Fodd bynnag, yn anffodus, mae anghydfodau busnes rhwng partneriaid sefydlu busnes, cyd-gyfranddeiliaid, ffrindiau neu aelodau o'r teulu sydd mewn busnes gyda'i gilydd yn llawer rhy gyffredin. Gall anghydfodau o'r fath fod yn hynod o ddrwg ac yn ddrud i'w datrys.
Gallai problemau godi oherwydd bod y partïon yn anghytuno ar benderfyniadau busnes pwysig, efallai y bydd un ohonyn nhw am dynnu eu harian allan o’r cwmni a chychwyn menter newydd, neu efallai nad yw’r busnes wedi bod mor llwyddiannus â’r disgwyl.
Beth yw pwrpas cytundeb cyfranddalwyr?
Nid yn unig y gall anghydfodau rhwng cyfranddalwyr arwain at gamau cyfreithiol drud, maen nhw hefyd yn tarfu’n fawr ar y busnes.
Bydd cytundeb cyfranddalwyr yn helpu i leihau’r risg o anghydfod gan ei fod yn helpu’r cyfranddalwyr i fynd i’r afael â materion allweddol yn gynnar a dylai, gobeithio, reoleiddio’r berthynas rhwng y cyfranddalwyr wrth i’r busnes dyfu.
Yn ogystal â rheoleiddio materion rheoli o ddydd i ddydd, gellir defnyddio cytundeb cyfranddalwyr i fynd i’r afael â materion mwy sylfaenol fel beth mae’r cyfranddalwyr ei eisiau o’r busnes ac o’u buddsoddiad?
Mae’n debygol y bydd gan y cyfranddalwyr mewn busnes flaenoriaethau gwahanol, rhai personol ac i’r busnes, ac felly mae angen iddyn nhw wneud yn siŵr bod pawb yn mynd i’r un cyfeiriad drwy nodi a chytuno ar sut maen nhw’n bwriadu rheoli eu strategaethau ymadael priodol pe bai angen.
Beth ddylai cytundeb cyfranddalwyr ei gynnwys?
Mae materion y gellir ymdrin â nhw fel arfer mewn cytundebau cyfranddalwyr yn cynnwys:
Y gobaith yw, drwy drafod, dod i gytundeb a chofnodi’r penderfyniadau yma o’r cychwyn, ar ffurf cytundeb cyfranddalwyr, y gellir lleihau’r risg o ffrae yn ddiweddarach. Fodd bynnag, os bydd hi’n dod i’r pen a bod ffrae yn anochel, mae cytundeb cyfranddalwyr yn gweithredu fel cod ar gyfer sut y dylid ymdrin â'r anghytundeb fel y gellir datrys yr anghydfod mor gyflym a chost effeithiol â phosib, gan ganiatáu i bawb symud ymlaen gyda chyn lleied o amharu â phosib ar y busnes.
Os hoffech ragor o wybodaeth am yr uchod neu fater cysylltiedig arall, cysylltwch â Steve Thompson i gael sgwrs am ddim, heb rwymedigaeth. yma.