Gall ein cyfreithwyr Ewyllysiau arbenigol eich helpu i sicrhau y gall unigolion dibynadwy weithredu ar eich rhan dros faterion ariannol, iechyd a lles, gan roi tawelwch meddwl i chi a’ch anwyliaid mewn cyfnod ansicr. Mae’n hanfodol cael y rhain yn eu lle mewn da bryd, pe bai’n codi eich bod yn colli galluedd meddyliol, er mwyn osgoi aelodau’r teulu rhag gorfod mynd trwy gais llawer drutach a llafurus gan y Llys Gwarchod i allu rheoli eich materion.
Mae dau fath o Atwrneiaeth Arhosol
Mae’r ddau fath o Atwrneiaeth Arhosol hefyd yn caniatáu ichi gynnwys dymuniadau (nad ydynt yn rhwymol) a chyfarwyddiadau (rhwymol) i arwain eich Atwrneiod. Mae angen drafftio'r rhain yn ofalus iawn gan na fyddant yn effeithiol fel arall. Cysylltwch gydag un o'n harbenigwyr am gyngor.
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin
Rwyf am benodi fy mhriod a’m plant yn atwrneiod, ond nid wyf am i’m plant weithredu oni bai bod fy mhriod wedi marw neu wedi colli galluedd – a allaf wneud hyn?
Gallwch, gallwch benodi eich gŵr yn unig atwrnai i ddechrau, gyda’ch plant yn eu lle, yn gallu camu dim ond pan nad yw’n gallu gweithredu.
A allaf benodi atwrneiod gwahanol ar gyfer pob math o Atwrneiaeth Arhosol?
Ydy, mae’r ddau yn bwerau ar wahân, felly gallwch ddewis gwahanol bobl fel atwrneiod os ydych yn teimlo y byddent yn addas ar gyfer un ond nid y llall.
Faint o atwrneiod ddylwn i eu penodi?
Yn ddelfrydol, byddech am benodi digon o atwrneiod fel y bydd rhywun bob amser i weithredu ar eich rhan. Rydym yn awgrymu anelu at dri (gallai un neu ddau fod yn atwrneiod wrth gefn) i sicrhau pe bai unrhyw beth yn digwydd i un neu ddau o’ch atwrneiod ac nad ydych yn gallu gwneud Atwrneiaeth Arhosol newydd, yna byddwch wedi’ch diogelu.
Cysylltwch â’n harbenigwyr Ewyllysiau a Phrofiant heddiw am ragor o gymorth o ran Atwrneiaeth Arhosol, gan ddefnyddio 02920 829 100, neu drwy ymweld â'n dudalen gyswllt, neu lenwi'r ffurflen ymholiad isod.