
Gyda 23 mlynedd o brofiad fel gweithiwr llawrydd – gan weithio’n bennaf yn y theatr, teledu a’r Celfyddydau – ymunodd Alun Darwin Gray ym mis Gorffennaf 2025.
Ar ôl hyfforddi'n wreiddiol fel Actor, mae hefyd yn Ddramodydd arobryn gyda drama ddwyieithog ar restr astudio Drama Safon Uwch CBAC.
Mae Alun yn gyffrous iawn i ddod â'r sgiliau creadigol a ddatblygodd yn ystod ei yrfa hyd yn hyn i Darwin Gray, ac i gynorthwyo tîm marchnata'r cwmni gyda'u cyfathrebu mewnol ac allanol, creu cynnwys a chyfrannu at sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae Alun wedi’i swyno gan ieithoedd, gall gyfrif i 10 mewn deg iaith a gall lwyddo gyfarchiad neu ymadrodd byr mewn tua thri deg o ieithoedd. Mae’n Rhiant Lywodraethwr yn Ysgol Gyfun Plasmawr ac yn aelod o Fwrdd yr Eisteddfod a’r Celfyddydau gydag Urdd Gobaith Cymru.