Mared Jones

Ganwyd a magwyd Mared o gwmpas ardal Bangor/Ynys Môn. Ar ôl cael Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Bangor, ymgymerodd â'r cwrs LPC a sicrhaodd Gontract Hyfforddi yn fuan wedyn.

Cymhwysodd Mared fel Cyfreithiwr Cleient Preifat ym mis Awst 2025. Ymunodd â thim Ewyllysiau a Phrofiant Darwin Gray ym mis Medi 2026.

Mae Mared yn siaradwr Cymraeg rhugl a gall wneud ei gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae Mared wedi'i lleoli yn ein swyddfa yn Ynys Môn.

  • Gweithredu ar ran amrywiol unigolion wrth gael y Grant Profiant, Llythyrau Gweinyddu a Llythyrau Gweinyddu gydag Ewyllys wedi'i Atodiadu
  • Gweithredu wrth baratoi Ewyllysiau ar gyfer cleientiaid â gwerth net uchel, gan ddarparu cyngor ynghylch eu sefyllfa gyda Threth Etifeddiaeth.
  • Cynghori cleientiaid busnes ac amaethyddol ynghylch yr Ewyllysiau mwyaf perthnasol, wedi'u teilwra i'w hamgylchiadau personol a'u prif amcanion.
  • Cynghori cleientiaid ar Ddeddf Etifeddiaeth (Darpariaeth ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975, gofal ac ystyriaeth ddyledus a gymerir wrth ystyried pwy i elwa o fewn Ewyllysiau. Cynghori ar y risgiau o ddad-etifeddu/peidio â chynnwys aelodau agos o'r teulu a chynghori ar ragofalon angenrheidiol i liniaru'r risg o hawliadau yn erbyn ystadau.
  • Gweinyddu ystadau trethadwy.
  • Ceisiadau am Atwrneiaethau Parhaol.
  • Ewyllysiau ac Ymddiriedolaethau
  • Profiant a Gweinyddiaeth Ystadau
  • Atwrneiaethau Arhosol
  • Cyngor Treth Etifeddiaeth

Profiad:

  • Cyfreithiwr Cynorthwyol – Cyfreithwyr Swayne Johnson (2025-2026)
  • Cyfreithiwr Hyfforddai – Cyfreithwyr Swayne Johnson (2023-2025)
  • Cynorthwyydd Cyfreithiol – Cyfreithwyr Swayne Johnson (2023-2023)

Addysg:

  • LPC a Gradd Meistr, Prifysgol y Gyfraith, Caer
  • LLB Cyfraith, Prifysgol Bangor
  • Ysgol Tryfan, Bangor

 

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.