Ymunodd Mike â Darwin Gray ym mis Mehefin 2023 fel paragyfreithiol, a dechreuodd weithio fel cyfreithiwr dan hyfforddiant ym mis Medi 2023. Enillodd ei radd yn y gyfraith yn 2017 o Brifysgol Gorllewin Lloegr, ac aeth ymlaen i gwblhau ei Gwrs Ymarfer Cyfreithiol ochr yn ochr â gradd meistr yn y Gyfraith a Busnes ym Mhrifysgol y Gyfraith, Bryste yn 2021.
Mae ganddo brofiad blaenorol fel paragyfreithiol, yn gweithio ym maes trawsgludo preswyl i sawl cwmni. Mae ganddo hefyd brofiad blaenorol o weithio ym maes eiddo deallusol fel dadansoddwr diogelu brand ac arweinydd is-dîm. Ar ôl cael profiad mewn sawl maes cyfraith gwahanol, teimlai mai dyma'r amser cywir i symud i bractis preifat a dilyn ei uchelgais o gymhwyso fel cyfreithiwr.
Ar hyn o bryd mae Mike yn ymgymryd â sedd yn ein hadran cyfraith Gorfforaethol a Masnachol.
Profiad
Paragyfreithiol, Darwin Gray
Paragyfreithiol, Hek Jones
Paragyfreithiol, Hugh James
Addysg
Graddiodd o Brifysgol Gorllewin Lloegr gyda 2:1 yn 2017
Cwblhaodd ei Gwrs Ymarfer Cyfreithiol rhwng Medi 2020 - Gorffennaf 2021 ym Mhrifysgol y Gyfraith, Bryste