Mae Nick yn gyfreithiwr cleient preifat arbenigol gyda 15 mlynedd o brofiad yn delio ag ystod eang o faterion yn ymwneud ag Ewyllysiau, Profiant/Gweinyddiaeth Ystadau, Ymddiriedolaethau, Pwerau Atwrnai a’r Llys Gwarchod.
Mae ganddo brofiad arbennig mewn materion cymhleth, gan gynghori cleientiaid ag asedau sylweddol a'r rhai ag amgylchiadau teuluol, ariannol a busnes cymhleth.
Gyda’r canlyniad gorau i gleientiaid yn flaenllaw yn ei feddwl, mae Nick yn gweithio gyda chleientiaid ar sail cyfathrebu sensitif ac effeithiol, gan sicrhau bod eu hanghenion nhw ac anghenion eu hanwyliaid yn cael eu diwallu.
Gweinyddu ystâd gymhleth gydag asedau mewn sawl gwlad wahanol ac a oedd yn gofyn am sefydlu elusen yn unol â dymuniadau’r ymadawedig
Cynghori ar, a chwblhau, Gweithred Amrywio mewn perthynas ag Ystad, gan arbed rhai cannoedd o filoedd o bunnoedd mewn Treth Etifeddiant i’r Ystâd
Cynllunio Ewyllysiau ac Ystadau ar gyfer pâr priod ag asedau sylweddol – gan ddefnyddio ymddiriedolaeth oes ac Ymddiriedolaeth Ewyllys mewn perthynas ag Asedau Busnes er mwyn sicrhau diogelwch i’w plant a chenedlaethau’r dyfodol ac i leihau Atebolrwydd Treth Etifeddiant
Drafftio Ewyllys i gynnwys Ymddiriedolaeth ar gyfer plant anabl
Cais i'r Llys Gwarchod i benodi Dirprwyon
Cynghori Ymddiriedolwyr am eu dyletswyddau o dan Ymddiriedolaeth, gan gynnwys camau y gallent eu cymryd i derfynu'r Ymddiriedolaeth
Ewyllysiau (yn aml yn gymhleth, gan gynnwys Ymddiriedolaethau i ddiogelu asedau rhag ffioedd cartref gofal neu afradlonedd ar ailbriodi priod sy’n goroesi)
Profiant/Gweinyddiaeth Ystadau
Atwrneiaethau Arhosol
Ymddiriedolaethau
Ceisiadau'r Llys Gwarchod
Profiad
Partner, Darwin Gray – 2023 – yn bresennol
Addysg
Prifysgol Lerpwl - LLB
Ysgol y Gyfraith Caerdydd