Mae Non yn Gymrawd yn nhîm Eiddo Masnachol arobryn Darwin Gray ac yn delio â phob agwedd ar waith eiddo masnachol gan gynnwys caffael a gwaredu eiddo rhydd-ddaliadol a phrydlesol, materion ail-ariannu, cynorthwyo gyda sefydlu safleoedd datblygu newydd a gwerthu lleiniau preswyl. Mae gan Non nifer o flynyddoedd o brofiad mewn eiddo preswyl ac mae hefyd wedi gweithredu ar ran nifer o gwmnïau datblygu mawr wrth waredu eiddo newydd a chaffael eiddo cyfnewid rhannol, cyn ymuno â Darwin Gray ym mis Medi 2024.
Non in lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ac yn siaradwr Cymraeg rhugl.
- Gweithredu ar ran prynwyr mewn trafodion eiddo preswyl gwerth uchel gyda chyllid benthyciwr a hebddo.
- Gweithredu ar ran cleientiaid datblygwyr mawr wrth waredu eiddo preswyl newydd a chaffaeliad eiddo cyfnewid rhannol.
- Gweithredu ar ran cleient masnachol wrth gaffael uned fasnachol.
- Gweithredu ar ran cleient masnachol wrth ail-ariannu uned fasnachol.
- Gweithredu ar ran Cymdeithas Tai i brynu llain o dir at ddibenion datblygu.
- Gweithredu ar ran cleient masnachol mewn sawl caffaeliad eiddo preswyl.
*cwblhawyd cyn ymuno â Darwin Gray*
- Amrywiaeth eang o waith trafodion eiddo gan gynnwys gwerthu a phrynu eiddo.
- Ail-ariannu a benthyciadau sicr.
- Sefydlu a gwaredu safle datblygu.
Profiad:
- Cyfreithiwr, David W Harris & Co Solicitors, Pontypridd, 2021 – 2024
- Cyfreithiwr, Hugh James LLP, Caerdydd, 2020
- Cyfreithiwr, Cyfreithwyr Harding Evans, Casnewydd, 2013-2019
Addysg:
- Ysgol y Gyfraith Caerdydd
- Prifysgol Aberystwyth
- Ysgol Gyfun Ystalyfera