
Ffôn: 02920 829 138
Ffôn symudol: 07547 101 993
E-bost: vlovell@darwingray.com
Mae Vanessa yn Uwch Gymrawd yn ein tîm datrys anghydfodau uchel ei barch. Mae hi wedi ennill profiad helaeth mewn meysydd ymarfer ar draws nifer o gwmnïau gwahanol dros y 18 mlynedd diwethaf ac mae'n cynghori ar ystod eang o anghydfodau. Mae hi'n arbenigo mewn ymgyfreitha masnachol, ewyllysiau ac ystadau a herir ac ystod eang o faterion eiddo cymhleth.
Mae gan Vanessa brofiad helaeth o gynghori unigolion a busnesau yn rheolaidd, ar faterion masnachol sy'n deillio o anghydfodau megis torri contract, perchnogaeth busnes ac anghydfodau cyfranddalwyr gan ddarparu dull pragmatig a negodi atebion. Mae ganddi hefyd brofiad o gyflwyno hawliadau i'r Uchel Lys ar ran buddiolwyr ac ysgutorion mewn amrywiaeth o anghydfodau ynghylch ewyllysiau, ymddiriedolaethau ac ystadau.
Mae hi hefyd yn ymdrin ag amryw o anghydfodau cymhleth ac uchel eu proffil sy'n ymwneud ag eiddo, gan weithredu ar ran cleientiaid gan gynnwys adeiladwyr tai, cwmnïau rheoli eiddo yn ogystal â chwmnïau cyhoeddus a phreifat, ac unigolion. Mae hi hefyd wedi gweithredu ar ran landlordiaid a thenantiaid yn y Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau a'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) gan gyflawni canlyniadau cadarnhaol i'w chleientiaid.
Profiad
Addysg