Hafan Gwasanaethau Cyfreithiol Anghydfodau Masnachol
Rydym yn falch o gynnig cyngor dwyieithog ac mae ein cyfreithwyr yn hyderus i gynnal cyfreitha trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ym mhob achos yng Nghymru, mae’n bosibl y caiff y Gymraeg ei defnyddio gan unrhyw barti neu dyst neu mewn unrhyw ddogfen y gellir ei gosod gerbron y Llys. Rydym yn falch iawn o’r iaith ac yn ceisio ei defnyddio fel rhan o’n bywyd gwaith bob dydd i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn iaith fusnes fyw ac anadlol. Roedd cyfeiriad ymarfer penodol yn ymwneud â defnyddio’r Gymraeg mewn achosion llysoedd sifil yng Nghymru yn un o egwyddorion allweddol Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac rydym yn gyfarwydd iawn ag ef.
Mae ein tîm o siaradwyr Cymraeg rhugl a hyderus yn cynghori cleientiaid yn rheolaidd ac yn cynnal ymgyfreitha trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llawer o’n cyfreithwyr yn gyfranwyr cyson a dibynadwy i’r cyfryngau Cymraeg ar faterion cyfreithiol amrywiol.
Os gwelwch yn dda cysylltwch aelod o’n tîm heddiw ar 02920 829 100 am ymgynghoriad cychwynnol rhad ac am ddim, heb rwymedigaeth ac i drafod unrhyw anghydfod mawr neu fach yn Gymraeg.