Yn ystod y sesiwn ryngweithiol hon, byddwch yn clywed am y camymddwyn a gyflawnwyd gan weithiwr penodol, a sut mae rheolwyr yn bwriadu delio ag ef. Bydd eich barn chi ar y cynnydd a’r cyfeiriad y dylai’r mater ei gymryd hefyd yn cyfrif, wrth i ni ddatgelu’r ffeithiau perthnasol, cyn rhoi’r cyfle i chi glywed gan ein hactorion dawnus a fydd yn chwarae allan yn y gwrandawiad disgyblu. Byddwn yn cloi gyda ffocws ar wersi a ddysgwyd o'r ymarfer, cyn rhoi awgrymiadau da i chi ar sut i gynnal eich gwrandawiadau disgyblu eich hun yn y dyfodol.
Mae sesiwn y bore a gynhelir ar-lein yn addas ar gyfer gweithwyr AD proffesiynol a / neu reolwyr o fewn sefydliadau. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ar gyfer y sesiwn ryngweithiol, hwyliog ac addysgiadol hon!