Mae gwneud Ewyllys ddilys yn sicrhau pan fyddwch yn marw y bydd eich asedau yn mynd i'r perthnasau, ffrindiau a sefydliadau yr hoffech iddynt wneud hynny. Fodd bynnag, yn aml mae pobl yn marw heb wneud Ewyllys ddilys. Pan fydd hynny'n digwydd, dosberthir asedau'r person yn unol â chyfreithiau diffyg ewyllys (a elwir yn Reolau Diewyllysedd). Rydym wedi crynhoi’r Rheolau Diewyllysedd isod i ddangos beth fydd yn digwydd i’ch asedau os byddwch yn marw heb Ewyllys ddilys.
Mae’r rheolau a grynhoir yma yn berthnasol i farwolaethau sy’n digwydd ar neu ar ôl 6 Chwefror 2020; os oes angen cyngor arnoch ar farwolaeth a ddigwyddodd cyn y dyddiad hwnnw, cysylltwch â ni.
Rwy'n briod neu mewn partneriaeth sifil
Bydd eich priod yn derbyn eich holl asedau. Fodd bynnag, os oes gennych blant hefyd, bydd eich priod yn derbyn eich holl eiddo personol a £322,000 cyntaf eich asedau eraill. Yna bydd gweddill eich ystâd yn cael ei rannu 50/50; bydd y 50% cyntaf yn mynd at eich priod, a bydd y 50% sy'n weddill yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng eich plant.
At ddibenion y Rheolau Diewyllysedd, mae eich plant yn cynnwys plant anghyfreithlon a phlant mabwysiedig, ond nid llysblant.
Nid wyf yn briod, ond mae gennyf blant
Bydd eich plant yn rhannu eich asedau yn gyfartal.
Nid wyf yn briod ac nid oes gennyf unrhyw blant
Bydd eich asedau’n cael eu rhannu’n gyfartal rhwng eich perthnasau agosaf sy’n dal yn fyw pan fyddwch chi’n marw, yn y drefn ganlynol:
Mae hyn yn golygu, os yw’r naill riant neu’r llall yn dal i fyw, bydd eich asedau’n cael eu rhannu’n gyfartal rhyngddynt ac ni fydd gweddill eich perthnasau byw yn derbyn dim. Os nad oes gennych unrhyw rieni byw pan fyddwch yn marw ond bod gennych frodyr a chwiorydd llawn, bydd eich brodyr a chwiorydd llawn yn rhannu eich asedau yn gyfartal, a bydd gweddill eich perthnasau byw yn derbyn dim byd, ac ati.
Nid oes gennyf unrhyw aelodau o'r teulu yn y categorïau hyn
Os nad oes unrhyw un i hawlio eich ystâd, bydd eich asedau i gyd yn cael eu trosglwyddo i'r Goron. Er mor annhebygol ag y gallai hyn ymddangos, ar ddiwedd 2021 roedd mwy na 6,000 o ystadau heb eu hawlio yn y DU, yr amcangyfrifir eu bod yn werth biliynau o bunnoedd.
Mae fy mherthynas wedi marw a chredaf fod gennyf hawl i'w hystad. Beth ddylwn i ei wneud?
Os yw aelod o'r teulu wedi marw heb adael Ewyllys a'ch bod yn credu bod gennych hawl i'r ystâd, cysylltwch â'n harbenigwyr heddiw. Gallwn drafod a ydych yn perthyn i gategori a fyddai’n rhoi’r hawl i chi wneud hawliad ac a allai fod angen cysylltu ag unrhyw berthnasau eraill. Efallai y bydd hefyd yn briodol i chi wneud cais i weinyddu eu hystad.
Os oes angen unrhyw gyngor arnoch, cysylltwch ag aelod o'n tîm yn gyfrinachol yma neu ar 02920 829 100 am alwad gychwynnol am ddim i weld sut y gallwn helpu.