Home Training and Events Heriau Adnoddau Dynol heddiw – cyfres o weminarau byr

Heriau Adnoddau Dynol heddiw – cyfres o weminarau byr

Risgiau cyfraith cyflogaeth dydd i ddydd, wedi’u hegluro mewn dim ond 20 munud

Cyfres o weminarau byr i weithwyr AD proffesiynol, rheolwyr a thimau sy’n delio â phroblemau cyfraith cyflogaeth.

Gyda newidiadau i gyfraith cyflogaeth yn 2026, mi fydd y sesiynau hyn yn canolbwyntio ar y risgiau cyfraith cyflogaeth sydd yn codi o ddydd-i-ddydd i reolwyr. Dim sleidiau yn llawn deddfwriaeth — dim ond arweiniad ymarferol ar yr hyn y dylai cyflogwyr ei wneud (neu beidio ei wneud).

 

📅 Dyddiau Mercher am 12yh (yn Gymraeg) | 3 Mehefin – 8 Gorffennaf 2026

 Yn rhad ac am ddim i fynychu | Tystysgrifau CPD ar gael

 

Amserlen Gweminarau

Gweminar 1: Rheoli gweithwyr “anodd” heb greu risg Tribiwnlys

Sut i drafod ymddygiad heriol yn hyderus – heb iddo droi’n broblem gyfreithiol.

📅 12yp ar 3 Mehefin 2026

 

Gweminar 2: Sut i gyfryngu (“mediate”) yn effeithiol

Gall gyfryngu ddatrys anghydfod — ond amseru priodol yw’r peth allweddol.

📅 12yp ar 10 Mehefin 2026

 

Gweminar 3: Pryd mae modd atal rhywun o’r gwaith?

Mae atal rhywun yn gallu bod yn gam effeithiol — ond mae’n hawdd i’w gael yn anghywir.

📅 12yp ar 17 Mehefin 2026

 

Gweminar 4: Sgyrsiau gwarchodedig – sut i’w defnyddio?

Cam synhwyrol mewn rhai sefyllfaoedd – ond un sydd yn medru cynyddu risgiau

📅 12yp ar 24 Mehefin 2026

 

Gweminar 5: Addasiadau rhesymol: camgymeriadau cyffredin a wneir gan gyflogwyr

Penderfyniadau bach â goblygiadau mawr — mae’r risg yn medru cuddio yn y manylion.

📅 12yp ar 1 Gorffennaf2026

 

Gweminar 6: Beth i’w wneud pan nad ydych yn ymddiried mewn cyflogai bellach

Pan fo’r berthynas waith wedi chwalu, gall eich ymateb chi ddiffinio’r risg gyfreithiol.

📅 12yp ar 8 Gorffennaf 2026

 

Mi fydd y sesiynau hyn yn Gymraeg.

Sessions will also be delivered in English. To learn more, visit our English Eventbrite page.

 

ARCHEBWCH NAWR