Ymunwch ag arweinwyr ac arbenigwyr ym maes llywodraethu i archwilio byrddau cryfach, arweinyddiaeth effeithiol, rheoli risg a hydwythedd cyfundrefnol.
Mi fydd Governance Wales 2027: Adeiladu Byrddau Cryfach ar gyfer Amseroedd Heriol yn gynhadledd i gasglu aelodau bwrdd, arweinwyr sector gyhoeddus, gweithwyr llywodraethu proffesiynol, rheolyddion a chyfarwyddwyr anweithredol ynghyd i archwilio’r amgylchedd llywodraethu sy’n parhau i esblygu a rôl hanfodol byrddau effeithiol wrth lywio ansicrwydd.
Mi fydd y gynhadledd hon â’i ffocws ar gryfhau arweinyddiaeth byrddau, cyfoethogi atebolrwydd, ac adeiladu hydwythedd cyfundrefnol fel ymateb i heriau economaidd, rheoleiddiol, technolegol a chymdeithasol. Ymunwch â ni i glywed am sut all byrddau gynnig trosolwg cadarn tra hefyd yn magu dyfeisgarwch, cynaliadwyedd a chreu gwerth hirdymor.
Themâu Allweddol
Arwain Trwy Ansicrwydd: Bydd ein prif siaradwyr yn tynnu sylw at y cymhlethdodau cynyddol y mae byrddau yn eu hwynebu, gan gynnwys pwysau ariannol, heriau’r gweithle, trawsnewid digidol, risgiau diogelwch cyber, a disgwyliadau cynyddol gan randdeiliaid. Bydd trafodaethau’n canolbwyntio ar sut y gall byrddau barhau’n hyblyg ac yn wydn wrth gynnal egwyddorion llywodraethu cadarn.
Effeithiolrwydd a Diwylliant y Bwrdd: Thema gyson fydd pwysigrwydd creu byrddau â pherfformiad uchel sydd yn hyrwyddo heriau adeiladol, yn gwneud penderfyniadau cynhwysol gydag arweiniad moesegol. Byddwch yn clywed am ddulliau ymarferol o werthuso perfformiad y bwrdd, cryfhau’r berthynas rhwng swyddogion gweithredol ac anweithredol a meithrin diwylliant o dryloywder ac ymddiriedaeth.
Risg, Sicrwydd ac Atebolrwydd: Byddwn yn archwilio risgiau sy’n dod i’r amlwg ac yn ystyried sut y gall byrddau gryfhau eu trefniadau goruchwylio risg a’u fframweithiau sicrwydd. Bydd y sesiynau’n pwysleisio’r angen am atebolrwydd clir, craffu effeithiol ac arferion llywodraethu rhagweithiol i gefnogi gwydnwch sefydliadol.
Amrywiaeth ac Arweinyddiaeth Gynhwysol: Byddwn yn atgyfnerthu gwerth byrddau amrywiol wrth wella ansawdd penderfyniadau a chanlyniadau llywodraethu, Bydd y siaradwyr yn amlygu pwysigrwydd ehangu cynrychiolaeth, datblygu talent bwrdd y dyfodol, a chreu amgylcheddau cynhwysol lle mae safbwyntiau gwahanol yn cael eu gwerthfawrogi.
Llywodraethu Digidol a Dyfeisgarwch: Wrth i dechnoleg barhau i ail-lunio sefydliadau, bydd trafodaethau’n canolbwyntio ar rôl byrddau wrth oruchwylio trawsnewid digidol, llywodraethu data, deallusrwydd artiffisial (AI) a diogelwch cyber. Bydd hyn yn eich helpu i ystyried sut y gall byrddau gydbwyso arloesedd / dyfeisgarwch â rheolaeth risg effeithiol.
Uchafbwyntiau
Prif Negeseuon
Byddwch yn gadael y gynhadledd gyda dealltwriaeth glir o sut y gall byrddau modern:
Casgliad
Bydd Llywodraethu Cymru 2027: Adeiladu Byrddau Cryfach ar gyfer Cyfnodau Heriol yn cynnig fforwm gwerthfawr ar gyfer archwilio dyfodol llywodraethu yng Nghymru. Bydd y gynhadledd yn atgyfnerthu pwysigrwydd byrddau cryf, amrywiol ac uchelgeisiol sy’n edrych tua’r dyfodol, ac sy’n gallu arwain sefydliadau’n llwyddiannus drwy amgylchedd cynyddol gymhleth wrth gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd, atebolrwydd cadarn, a ffocws strategol hirdymor.
Siaradwyr yn cynnwys:
Mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio i herio rhagdybiaethau presennol ynghylch llywodraethu da mewn modd adeiladol a chadarnhaol. P’un a ydych yn ymddiriedolwr sy’n dymuno cryfhau perfformiad eich bwrdd neu’n uwch swyddog gweithredol sy’n gweithio ochr yn ochr â’r bwrdd, bydd y diwrnod yn cynnig cyfle i fyfyrio ar arferion cyfredol, dysgu gan gymheiriaid, ac adnabod gwelliannau ymarferol y gellir eu rhoi ar waith.
Mae sicrhau llywodraethu effeithiol yn ymwneud â chreu sefydliadau sy’n wydn, yn atebol, ac yn gallu darparu effaith barhaol.
Ymunwch ag arweinwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig am ddiwrnod o fewnwelediad, trafodaeth adeiladol, a dysgu ymarferol a fydd yn helpu i sicrhau bod trefniadau llywodraethu eich sefydliad yn addas ar gyfer y dyfodol.
Pwy Ddylai Mynychu?
Mi fydd y gynhadledd yn arbennig o addas ar gyfer::
The conference is run by Darwin Gray LLP. Details to attend this event will be shared with all parties and used in accordance to their privacy policies:
Ymunwch â ni yn Governance Wales 2027
Byddwch yn rhan o’r drafodaeth fydd yn ffurfio dyfodol llywodraethu yng Nghymru.
Ymunwch ag arbenigwyr llywodraethu ac arweinwyr o lefydd ar draws y DU am ddiwrnod o fewnwelediad arbenigol, dysgu ymarferol a rhwydweithio gwerthfawr, â’r ffocws ar adeiladu sefydliadau mwy atebol sydd yn fwy hydwyth a chryfach am hynny.
Sicrhewch eich lle yn Governance Wales 2027.
*Archebwch yn gynnar ac arbedwch 10%! Cymerwch fantais o’n gostyngiad early bird wpan ‘rydych yn archebu eich lle cyn 30 Tachwedd 2026.