Ymunwch â Darwin Gray a’n harbenigwyr cyfraith cyflogaeth am weminar 45 munud rhad ac am ddim i ddysgu am y newidiadau diweddaraf, a’r camau uniongyrchol y gallwch eu cymryd i baratoi eich sefydliad ar eu cyfer.
Mae 2025 yn argoeli i fod yn flwyddyn o newidiadau ym maes cyfraith cyflogaeth ac adnoddau dynol, yn dilyn cyhoeddiadau newydd, gan gynnwys:
- Diweddariadau i’r Mesur Hawliau Cyflogaeth;
- Bil aelod preifat yn cyflwyno absenoldeb diogelwch â thâl i ddioddefwyr trais domestig;
- Newidiadau blynyddol i gyfraddau cyflogaeth amrywiol;
- Diweddariadau’r Swyddfa Gartref i’r system Trwydded Noddi;
- Newidiadau i’r system Tribiwnlys Cyflogaeth.
Ymunwch â Darwin Gray a’n harbenigwyr cyfraith cyflogaeth am weminar 45 munud rhad ac am ddim i ddysgu am y newidiadau diweddaraf, a’r camau uniongyrchol y gallwch eu cymryd i baratoi eich sefydliad ar eu cyfer.
Byddwn yn trafod y pynciau canlynol:
- Y wybodaeth ddiweddaraf am y Mesur Hawliau Cyflogaeth a’i daith drwy’r Senedd gyda newidiadau arfaethedig i hawliau diswyddo annheg, yr amserlen ar gyfer cyflwyno hawliadau tribiwnlys cyflogaeth, contractau dim oriau, diswyddo ac ail-gyflogi a llawer mwy.
- Diweddariadau blynyddol i’r Cyflog Byw Cenedlaethol, a thaliadau statudol amrywiol megis tâl mamolaeth statudol a thâl tadolaeth statudol a’r hyn y bydd angen i chi ei wneud i baratoi;
- Diweddariadau ar amrywiol ddeddfwriaethau a basiwyd yn 2024 wrth i ni nesáu at eu dyddiad cychwyn yn 2025;
- Deddfwriaeth newydd bosibl ar hysbysu am fwlch cyflog ethnigrwydd ac anabledd gorfodol, yn ogystal â deddfwriaeth newydd i oroeswyr trais domestig a dyletswyddau cyflogwyr tuag atynt.
Manylion y cyflwyniad
Dyddiad: Dydd Iau 30 Ionawr 2025
Amser: 12yh-12:45yh
Ar-lein: Byddwch yn derbyn y manylion ymuno a’r dolenni perthnasol cyn y gweminar.
Bydd ein cyfreithwyr hefyd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Archebwch eich lle yma.
*Bydd y gweminar hwn hefyd yn cael ei gyflwyno yn Saesneg ddydd Mercher 29 Ionawr 2025. Ewch i’n tudalen Hyfforddiant a Digwyddiadau am ragor o fanylion*