Home Training and Events Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025: Cyfres o Weminarau Cryno i Gyflogwyr

Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025: Cyfres o Weminarau Cryno i Gyflogwyr

Mae’r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025(ERA) wedi cael ei basio. Bydd yn cyflwyno newidiadau sylweddol i gyflogwyr.

Mae’r gyfres hon o weminarau cyfrwng Cymraeg yn dadansoddi’r ddeddfwriaeth newydd mewn cyfres o 6 gweminar cryno, rhad ac am ddim, pob un â’i ffocws ar faes allweddol o’r Ddeddf am 20 munud yn unig. Dim cyflwyniadau hirfaith, dim ond ffeithiau a chyngor ymarferol i gyflogwyr.

Cynhelir pob gweminar gan gyfreithwyr cyflogaeth Darwin Gray. Byddant yn esbonio yn union beth fydd yn newid a phryd – a’r hyn y dylai cyflogwyr fod yn gwneud nawr i baratoi.

Diwrnodau Mercher achlysurol am 12yp | 4 Chwefror – 18 Mawrth 2026

Am ddim i fynychu

Tystysgrifau CPD ar gael ar gais

 

Amserlen Gweminarau

Newidiadau i Reolau Diswyddo Annheg
(12yp ddydd Mercher 4 Chwefror)
Sut fydd cyfnod cymhwyso newydd ac iawndal diderfyn yn newid y modd mae cyflogwyr yn cynnal diswyddiadau.

Cytundebau Dim Oriau o Dan y Chwyddwydr
(12yp ddydd Mercher 11 Chwefror)
Sut fydd hawl i weithio oriau rhagweladwy yn effeithio ar weithio’n hyblyg neu dros dro.

Gofynion Pellach ar Gyflogwyr i Atal Aflonyddu yn y Gweithle
(12yp ddydd Mercher 25 Chwefror)
Sut fydd gofynion pellach ar gyflogwyr i atal aflonyddu rhywiol a rheolau pellach ynghylch aflonyddu rhywiol gan drydydd partïon yn creu risg i enw da sefydliadau.

Ailstrwythuro a Diswyddiadau Gorfodol – Beth fydd yn gorfod newid?
(12yp ddydd Mercher 4 Mawrth)
Sut fydd rheolau newydd ar ymgynghori a chyflogi ac ail-gyflogi (fire and rehire) yn ail-siapio’r ffordd y bydd cyflogwyr yn gwneud penderfyniadau.

Hawliau Ehangach i Undebau Llafur
(12yp ddydd Mercher 11 Mawrth)
Sut fydd angen i gyflogwyr ymateb i bwerau mynediad, ymgynghoriad a bargeinio torfol ehangach.

Newidiadau i Hawliau Teuluol
(12yp ddydd Mercher 18 Mawrth)
Sut fydd y Ddeddf yn effeithio ar daliadau salwch, tadolaeth, mamolaeth, profedigaeth a hawliau gweithio hyblyg.

Pwy ddylai fynychu:
Mae’r gyfres hon o weminarau wedi ei hanelu at gyflogwyr, gweithwyr AD proffesiynol, uwch-reolwyr ac unrhyw un sydd â chyfrifoldeb dros reoli pobl neu sy’n ymwneud â phenderfyniadau cyflogaeth.

Gellir cofrestru am sesiynau unigol neu gofrestru i fynychu’r gyfres gyfan.

Caiff y sesiynau hefyd eu cynnal drwy’r Saesneg. Gellir dod o hyd i wefan y digwyddiadau iaith Saesneg yma.

Sicrhewch eich lle yn rhad ac am ddim nawr!

I gofrestru, cliciwch yma.