Home Training and Events Llywodraethiant Cymru 2027: Adeiladu Byrddau Cryfach ar gyfer Amseroedd Heriol

Llywodraethiant Cymru 2027: Adeiladu Byrddau Cryfach ar gyfer Amseroedd Heriol

Llywodraethiant Cymru 2027: Adeiladu Byrddau Cryfach ar gyfer Amseroedd Heriol

Ymunwch ag arweinwyr ac arbenigwyr ym maes llywodraethu i archwilio byrddau cryfach, arweinyddiaeth effeithiol, rheoli risg a hydwythedd cyfundrefnol.

Mi fydd Governance Wales 2027: Adeiladu Byrddau Cryfach ar gyfer Amseroedd Heriol yn gynhadledd i gasglu aelodau bwrdd, arweinwyr sector gyhoeddus, gweithwyr llywodraethu proffesiynol, rheolyddion a chyfarwyddwyr anweithredol ynghyd i archwilio’r amgylchedd llywodraethu sy’n parhau i esblygu a rôl hanfodol byrddau effeithiol wrth lywio ansicrwydd.

Mi fydd y gynhadledd hon â’i ffocws ar gryfhau arweinyddiaeth byrddau, cyfoethogi atebolrwydd, ac adeiladu hydwythedd cyfundrefnol fel ymateb i heriau economaidd, rheoleiddiol, technolegol a chymdeithasol. Ymunwch â ni i glywed am sut all byrddau gynnig trosolwg cadarn tra hefyd yn magu dyfeisgarwch, cynaliadwyedd a chreu gwerth hirdymor.

 

Themâu Allweddol

 

Arwain Trwy Ansicrwydd: Bydd ein prif siaradwyr yn tynnu sylw at y cymhlethdodau cynyddol y mae byrddau yn eu hwynebu, gan gynnwys pwysau ariannol, heriau’r gweithle, trawsnewid digidol, risgiau diogelwch cyber, a disgwyliadau cynyddol gan randdeiliaid. Bydd trafodaethau’n canolbwyntio ar sut y gall byrddau barhau’n hyblyg ac yn wydn wrth gynnal egwyddorion llywodraethu cadarn.

Effeithiolrwydd a Diwylliant y Bwrdd: Thema gyson fydd pwysigrwydd creu byrddau â pherfformiad uchel sydd yn hyrwyddo heriau adeiladol, yn gwneud penderfyniadau cynhwysol gydag arweiniad moesegol. Byddwch yn clywed am ddulliau ymarferol o werthuso perfformiad y bwrdd, cryfhau’r berthynas rhwng swyddogion gweithredol ac anweithredol a meithrin diwylliant o dryloywder ac ymddiriedaeth.

Risg, Sicrwydd ac Atebolrwydd: Byddwn yn archwilio risgiau sy’n dod i’r amlwg ac yn ystyried sut y gall byrddau gryfhau eu trefniadau goruchwylio risg a’u fframweithiau sicrwydd. Bydd y sesiynau’n pwysleisio’r angen am atebolrwydd clir, craffu effeithiol ac arferion llywodraethu rhagweithiol i gefnogi gwydnwch sefydliadol.

Amrywiaeth ac Arweinyddiaeth Gynhwysol: Byddwn yn atgyfnerthu gwerth byrddau amrywiol wrth wella ansawdd penderfyniadau a chanlyniadau llywodraethu, Bydd y siaradwyr yn amlygu pwysigrwydd ehangu cynrychiolaeth, datblygu talent bwrdd y dyfodol, a chreu amgylcheddau cynhwysol lle mae safbwyntiau gwahanol yn cael eu gwerthfawrogi.

Llywodraethu Digidol a Dyfeisgarwch: Wrth i dechnoleg barhau i ail-lunio sefydliadau, bydd trafodaethau’n canolbwyntio ar rôl byrddau wrth oruchwylio trawsnewid digidol, llywodraethu data, deallusrwydd artiffisial (AI) a diogelwch cyber. Bydd hyn yn eich helpu i ystyried sut y gall byrddau gydbwyso arloesedd / dyfeisgarwch â rheolaeth risg effeithiol.

 

Uchafbwyntiau

  • Cyflwyniadau prif araith (keynote) craff ac ysbrydoledig gan arbenigwyr blaenllaw ym maes llywodraethu ac arweinwyr byrddau profiadol
  • Trafodaethau panel rhyngweithiol yn archwilio heriau llywodraethu ar draws sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat, a’r trydydd sector
  • Gweithdai ymarferol yn canolbwyntio ar ddatblygu byrddau, cynllunio olyniaeth, rheoli risg, a diwylliant sefydliadol
  • Cyfleoedd gwerthfawr i rwydweithio, rhannu profiadau, trafod heriau, a chyfnewid arferion gorau o bob cwr o Gymru

 

Prif Negeseuon

Byddwch yn gadael y gynhadledd gyda dealltwriaeth glir o sut y gall byrddau modern:

  • Gryfhau fframweithiau llywodraethu a phrosesau gwneud penderfyniadau
  • Gwella gwydnwch sefydliadol yn ystod cyfnodau o ansicrwydd
  • Meithrin diwylliannau bwrdd cynhwysol ac effeithiol
  • Cryfhau goruchwyliaeth o risg, technoleg a pherfformiad
  • Cefnogi llwyddiant sefydliadol cynaliadwy drwy arweinyddiaeth gadarn ac atebolrwydd clir

 

Casgliad

Bydd Llywodraethu Cymru 2027: Adeiladu Byrddau Cryfach ar gyfer Cyfnodau Heriol yn cynnig fforwm gwerthfawr ar gyfer archwilio dyfodol llywodraethu yng Nghymru. Bydd y gynhadledd yn atgyfnerthu pwysigrwydd byrddau cryf, amrywiol ac uchelgeisiol sy’n edrych tua’r dyfodol, ac sy’n gallu arwain sefydliadau’n llwyddiannus drwy amgylchedd cynyddol gymhleth wrth gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd, atebolrwydd cadarn, a ffocws strategol hirdymor.

Siaradwyr yn cynnwys:

  • David Holdsworth, CEO, The Charity Commission
  • Robert Barrington, Professor of Anti-Corruption Practice at Centre for the Study of Corruption (CSC), University of Sussex and Author of Corrupted Kingdom – Britain’s Disappearing Integrity and How We Can Get It Back
  • Dr Lindsay Cordery-Bruce, CEO, WCVA
  • Jayne Miller, Regional Development Manager, The Chartered Governance Institute UK & Ireland
  • Fflur Jones, Partner Rheoli, Darwin Gray

 

Mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio i herio rhagdybiaethau presennol ynghylch llywodraethu da mewn modd adeiladol a chadarnhaol. P’un a ydych yn ymddiriedolwr sy’n dymuno cryfhau perfformiad eich bwrdd neu’n uwch swyddog gweithredol sy’n gweithio ochr yn ochr â’r bwrdd, bydd y diwrnod yn cynnig cyfle i fyfyrio ar arferion cyfredol, dysgu gan gymheiriaid, ac adnabod gwelliannau ymarferol y gellir eu rhoi ar waith.

Mae sicrhau llywodraethu effeithiol yn ymwneud â chreu sefydliadau sy’n wydn, yn atebol, ac yn gallu darparu effaith barhaol.

Ymunwch ag arweinwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig am ddiwrnod o fewnwelediad, trafodaeth adeiladol, a dysgu ymarferol a fydd yn helpu i sicrhau bod trefniadau llywodraethu eich sefydliad yn addas ar gyfer y dyfodol.

 

Pwy Ddylai Mynychu?

Mi fydd y gynhadledd yn arbennig o addas ar gyfer::

  • Ymddiriedolwyr Elusen
  • Arweinwyr Sector Gyhoeddus
  • Aelodau Bwrdd a Chyfarwyddwyr Anweithredol
  • Cadeiryddion Bwrdd
  • Prif Weithredwyr (CEOs)
  • Cyfarwyddwyr Cyllid (FDs)
  • Timau Uwch Reoli
  • Gweithwyr Ysgrifenyddol Maes Llywodraethu a Chwmni
  • Rheoleiddwyr

 

The conference is run by Darwin Gray LLP. Details to attend this event will be shared with all parties and used in accordance to their privacy policies:

 

 

Ymunwch â ni yn Governance Wales 2027

Byddwch yn rhan o’r drafodaeth fydd yn ffurfio dyfodol llywodraethu yng Nghymru.

Ymunwch ag arbenigwyr llywodraethu ac arweinwyr o lefydd ar draws y DU am ddiwrnod o fewnwelediad arbenigol, dysgu ymarferol a rhwydweithio gwerthfawr, â’r ffocws ar adeiladu sefydliadau mwy atebol sydd yn fwy hydwyth a chryfach am hynny.

Sicrhewch eich lle yn Governance Wales 2027.

*Archebwch yn gynnar ac arbedwch 10%! Cymerwch fantais o’n gostyngiad early bird wpan ‘rydych yn archebu eich lle cyn 30 Tachwedd 2026.