May 12, 2025
Beth yw Cynnig Cymraeg Darwin Gray?
Mae ein harlwy Gymraeg wedi tyfu’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn, mae canran mawr o’r cwmni yn medru ar y Gymraeg. Rydym bellach yn gallu cynnig y mwyafrif o’n gwasanaethau cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gallwn gynnig gwasanaethau cyfreithiol yn y meysydd canlynol drwy gyfrwng y Gymraeg:
Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant ar nifer o feysydd drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â chynadleddau addysgiadol.
Pam bod ein Cynnig Cymraeg yn bwysig?
Teimlwn yn angerddol bod hi’n allweddol i gleientiaid i allu cyfathrebu yn eu mamiaith. Gall fod yn gysur i gleientiaid sy’n derbyn cyngor cyfreithiol drwy gyfnodau anodd, yn ogystal â chynorthwyo unigolion a busnesau Cymraeg i ddeall a dilyn prosesau anodd. Gallwch ddarllen mwy am ein cefnogaeth i’r ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’ yma.
Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg hefyd yn helpu ein cleientiaid i dyfu ar draws Cymru. Gweithredwn ar ran nifer o sefydliadau blaenllaw yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o hynny. Rydym hefyd yn gyffrous iawn ein bod wedi sicrhau lle ar Fframwaith Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru am bedair mlynedd arall, yn ogystal â chael ein ail-benodii Banel Comisiynydd y Gymraeg.
Beth nesaf i Gynnig Cymraeg Darwin Gray?
Yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, mae ein cynnig Cymraeg hefyd yn ffynnu, gyda mwy o weithwyr Cymraeg wedi ymuno gyda ni eleni. Ymfalchïwn yn y ffaith bod rhai o’n gweithwyr nad sy’n medru ar y Gymraeg bellach wedi cofrestru ar gyrsiau i ddysgu’r iaith.
Mae ein hail swyddfa yng Ngogledd Cymru wedi lledaenu ein cynnig i’r gogledd hefyd. Mae ein swyddfa yn y gogledd yn parhau i dyfu – ac mae pob un o’r gweithwyr yn y swyddfa honno yn gallu cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg.
Gyda’r holl gynnydd hyn, mae ein cymhwysedd i gymryd ymlaen materion Cymraeg yn parhau i dyfu, a bydd ein cynnig yn estyn yn bellach!
Yn ystod ein proses o ailfrandio’n ddiweddar, rhoddwyd ffocws penodol ar amlygu’r gwerth a roddwn ar ein hunaniaeth Gymraeg. Mae’r gair Cymraeg ‘cyfreithwyr’ yn ein logo newydd er mwyn pwysleisio’r cynnig Cymraeg sydd gennym.
Does dim amheuaeth bod cynnig Cymraeg Darwin Gray yn mynd o nerth i nerth. Mae’r Gymraeg yn rhan annatod a phwysig o’n gwasanaeth ac rydym yn awyddus i sicrhau bod ein darpariaeth Gymraeg yn parhau i dyfu wrth i Darwin Gray dyfu.