Wythnos y Cynnig Cymraeg – Ein Hymrwymiad Parhaus i’r Gymraeg
May 13, 2026
Yn Darwin Gray, rydym yn hynod falch o’n gwreiddiau Cymraeg a’n hymrwymiad parhaus i ddarparu Cynnig Cymraeg cadarn a chynhwysfawr i’n cleientiaid.
Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n hunaniaeth ac yn cael ei chydnabod fel elfen greiddiol o’r ffordd rydym yn gweithredu fel cwmni cyfreithiol wedi ei leoli yn ne ac yng ngogledd Cymru.
Mae’r ymrwymiad hwn yn cael ei adlewyrchu nid yn unig yn ein gwasanaethau cyfreithiol, ond hefyd yn ein gweithgarwch ehangach, ein perthnasoedd â’n cleientiaid, a’n cefnogaeth weithredol i’r gymuned Gymraeg.
Mae ein harlwy Cymraeg wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac erbyn hyn mae canran mawr o’r cwmni yn medru ar y Gymraeg. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gynnig y mwyafrif o’n gwasanaethau cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gallwn gynnig gwasanaethau iaith Gymraeg yn y meysydd canlynol:
Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant a chyrsiau pwrpasol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chymryd rhan mewn cynadleddau a digwyddiadau addysgiadol ar draws Cymru. Mae ein harlwy o gyfresi gweminar iaith Gymraeg <https://www.darwingray.com/training_and_events/heriau-adnoddau-dynol-heddiw-cyfres-o-weminarau-byr/> rhad ac am ddim dros y flwyddyn ddiwethaf yn parhau i fod yn hynod o boblogaidd, gan sicrhau mewnwelediad cyfreithiol hygyrch i bawb sydd am gofrestru a mynychu.
Teimlwn yn angerddol ei bod yn allweddol i gleientiaid allu cyfathrebu yn eu mamiaith, yn arbennig pan fyddant yn derbyn cyngor cyfreithiol drwy gyfnodau heriol. Mae gweithio yn Gymraeg yn cynnig cysur ac eglurder, ac yn helpu unigolion a busnesau Cymraeg i ddeall a llywio prosesau cyfreithiol cymhleth.
Mae’r Cynnig Cymraeg hefyd yn galluogi ein cleientiaid i dyfu ar draws Cymru. Rydym yn gweithredu ar ran nifer o sefydliadau blaenllaw dros Gymru, ac rydym yn falch o barhau i gadw ein lle ar Fframwaith Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru, ac o gael ein hailbenodi llynedd i Banel Comisiynydd y Gymraeg.
Yn Darwin Gray, credwn fod cefnogi’r Gymraeg yn ymestyn y tu hwnt i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol. Fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i’r iaith a’i dyfodol, rydym yn falch o noddi Eisteddfod yr Urdd 2026 yn Ynys Môn.
Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o brif wyliau diwylliannol yr iaith Gymraeg, gan ddathlu’r genhedlaeth nesaf o dalent mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth, perfformio a’r celfyddydau. Mae talu nawdd i’r ŵyl hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi pobl ifanc a sicrhau dyfodol cadarn i’r Gymraeg.
Rydym yn parhau i fuddsoddi yn natblygiad ein pobl. Yn ddiweddar, mynychodd dau aelod o’n tîm cwrs gloywi iaith yn Nant Gwrtheyrn, gyda’r nod o hybu eu hyder a’u gallu i weithio yn Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’r camau hyn yn rhan o’n dull hirdymor o gryfhau ein capasiti mewnol a gwella profiad ein cleientiaid Cymraeg.
O fewn ein gwaith dydd-i-ddydd rydym hefyd yn cefnogi pob defnydd o’r iaith gydag adran arbennig Cymraeg yn Darwin Gray ar ein mewnrwyd, sydd yn cynnwys rhestr termau cyfreithiol hygyrch i annog a chefnogi’n gweithlu.
Yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, mae’r Cynnig Cymraeg yn parhau i ffynnu, gyda mwy o weithwyr Cymraeg wedi ymuno â’r cwmni yn ddiweddar. Rydym hefyd yn falch fod nifer o’n cydweithwyr nad ydynt yn rhugl yn y Gymraeg wedi cofrestru ar gyrsiau dysgu’r iaith.
Mae ein hail swyddfa yng Ngogledd Cymru wedi lledaenu ein darpariaeth ymhellach, ac mae pob aelod o’r tîm yn y swyddfa honno yn gallu cynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth i ni barhau i ystyried ein brand fel cwmni, parhawn i roi ffocws penodol ar amlygu gwerth ein hunaniaeth Gymreig. Mae cynnwys y gair “cyfreithwyr” yn ein logo yn tanlinellu’n glir y Cynnig Cymraeg sydd wrth galon Darwin Gray.
Does dim amheuaeth bod Cynnig Cymraeg Darwin Gray yn mynd o nerth i nerth. Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n gwasanaeth, ein diwylliant a’n dyfodol, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod ein darpariaeth Gymraeg yn parhau i dyfu wrth i Darwin Gray dyfu ar draws Cymru.